Neidio i'r prif gynnwy

Enwebu cynllun presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd am wobr genedlaethol

Mae sesiynau presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd Canolfan Ganser Felindre a Ray of Light Cancer Support wedi cael eu henwebu am wobr genedlaethol.

Cyhoeddwyd yr wythnos hon fod y gwasanaeth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru yng nghategori'r 'Gwasanaeth Gorau ar gyfer Cymorth Iechyd Meddwl'.

Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn i wasanaeth cymorth iechyd meddwl sydd wedi dangos a darparu cymorth rhagorol i unigolion wrth eu gwaith beunyddiol fel sefydliad.

"Mae'n braf iawn cael ein henwebu am wobr genedlaethol a chael cydnabyddiaeth am y cymorth iechyd meddwl rydyn ni'n ei gynnig bob wythnos", meddai Rhiannon Freshney, Swyddog Datblygu Amgylcheddol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

"Mae croeso i bawb mae canser wedi effeithio arnyn nhw, p'un a ydych chi'n glaf, yn ofalwr neu'n aelod o'r teulu. Mae llawer o gymorth arbennig i gleifion, ond mae Ray of Light yn cynnig cymorth i bawb."

Bob dydd Mawrth rhwng 10.30am a 12.30pm yng Nghanolfan Ganser Felindre, mae'r sesiynau'n cynnig man anfeirniadol i bawb os ydy canser wedi effeithio arnyn nhw.

Maen nhw'n rhad ac am ddim ac maen nhw'n seiliedig ar briodweddau therapiwtig natur a defnyddio popeth heb wastraffu dim byd.

Meddai Sue Norris, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Ray of Light “Mae'n wych cael y gydnabyddiaeth hon am y cymorth rydyn ni'n ei gynnig.

“Cafodd Ray of Light ei sefydlu yn 2009 i ddarparu cymorth emosiynol i bobl os ydy canser wedi effeithio arnyn nhw, ac ers hynny rydyn ni wedi dod yn elusen gofrestredig sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb."

"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn arbennig", ychwanegodd Becky Fawcett o Ray of Light Cancer Support. "Rydyn ni'n gweld pobl ar bob cam o'u taith ac mae'n braf gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywyd."

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r fenter wythnosol yma, a bydd y seremoni wobrwyo'n cael ei chynnal ddydd Llun 10 Hydref yn The Village Hotel yng Nghaerdydd.

"Fyddwn i ddim wedi ymdopi hebddyn nhw. Roeddwn i'n teimlo
weithiau fel petawn i ddim yn mynd i oroesi'r wythnos
ac mae'r cymorth dwi wedi ei gael yn anhygoel.