1 Gorffennaf 2025
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cynnal Gwobrau Rhagoriaeth y Gweithlu unwaith eto yn ddiweddarach eleni.
Rydym yn galw arnoch i'n helpu i roi sbotolau ar lwyddiant drwy enwebu ein staff ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl.
P’un a ydych chi’n rhoddwr, yn glaf, yn aelod o’r teulu neu’n aelod o’r cyhoedd, byddai’n braf iawn petasech chi’n rhoi peth o’ch amser ac enwebu rhywun sydd wedi darparu gofal neu wasanaeth rhagorol yn eich barn chi.
Mae modd enwebu staff o Wasanaeth Gwaed Cymru, Gwasanaeth Ganser Felindre a Gwasanaethau Corfforaethol yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y wobr hon. Mae hyn yn cynnwys yr holl staff clinigol, staff anghlinigol a myfyrwyr.
Enillydd y wobr y llynedd oedd Siân Hampton, sy’n weithiwr cymorth gofal iechyd yng Ngwasanaeth Canser Felindre ac yn helpu gyda llinellau PICC (cathetr canolog sy’n cael ei roi trwy’r croen mewn man perifferol).
Ar ôl ennill y wobr yn 2024, dywedodd Siân:
“Rwy’n teimlo’n llawn syndod a balchder,” meddai Siân ar ôl ennill ei gwobr. Dydy mynd i Felindre ddim yn teimlo fel gwaith i mi. Rwy’n caru fy swydd ac mae’r staff yn anhygoel.
“Mae’r cleifion a’r tîm rwy’n gweithio gyda nhw’n fy ysbrydoli bob dydd, felly mae’r wobr hon yn golygu cymaint i mi.”
Bydd enillydd y wobr nid yn unig yn rhannu beth maen nhw wedi’i ddysgu o fewn ein sefydliad, ond gallan nhw ysbrydoli arloesedd ar draws GIG Cymru hefyd. Drwy enwebu, gallwch chi helpu i wella safonau yn y gwasanaethau iechyd, a dweud diolch i'r rheiny sy'n wirioneddol haeddu hynny.
Ydych chi'n adnabod rhywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac sy'n haeddu cydnabyddiaeth arbennig?
Llenwch y ffurflen | Enwebwch nawr (ffurflen ar gael yn Gymraeg hefyd).
Dyddiad cau: Dydd Sadwrn 31 Awst 2024
Bydd y panel beirniadu yn cynnwys ystod eang o staff gan gynnwys arweinwyr pwnc, Cyfarwyddwyr Gweithredol, a chydweithwyr Undebau Llafur. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd pan gynhelir y seremoni wobrwyo ddiwedd mis Hydref 2025.