Neidio i'r prif gynnwy

Enewebiad am wobr anrhydeddus i ymgynghorydd gofal lliniarol

9 Mawrth 2023

Mae ymgynghorydd gofal lliniarol yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi cael ei enwebu am Wobr Dewi Sant.

Cafodd yr Athro Mark Taubert ei enwebu am y wobr anrhydeddus yng Nghategori’r Gweithiwr Critigol (Gweithiwr Allweddol), sy’n cydnabod unigolyn, tîm neu grŵp yng Nghymru sy’n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, y gwasanaethau brys, llywodraeth leol, addysg neu ofal plant.

Bob blwyddyn, mae’n cydnabod pobl “sydd wedi mynd gam ymhellach i ddarparu gwasanaeth eithriadol i bobl Cymru”, a daw ei enwebiad am ei waith ym maes gofal lliniarol, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.

 

Dywedodd yr Athro Taubert ynglŷn â chael ei enwebu:

“Mae’n golygu cymaint i mi ac rwy’n ddiolchgar iawn fod cydweithiwr wedi fy enwebu.

“Dydy pawb ddim bob amser yn ystyried gofal lliniarol yn faes critigol; weithiau rydyn ni’n delio â chlaf canser am sawl blynedd ac weithiau rydyn ni’n eu rhyddhau nhw o’n gwasanaeth. Dydy hyn ddim bob tro’n golygu diwedd oes.

“Rydyn ni i gyd yn cydweithio’n agos yn Felindre, ac mae gofal lliniarol yn ffynnu ar gydweithio amlddisgyblaethol. Mae’r staff gweinyddol, y tîm nyrsio, y meddygon, y fferyllwyr, y therapyddion galwedigaethol, y gweithwyr cymdeithasol – a llawer mwy – yn gwneud gwaith rhagorol. Allwn ni ddim cyflawni ein rôl heb ein gilydd.”

 

Meddai Lesley Radley, Cynrychiolydd Cleifion/Gofalwyr ar Grŵp Strategaeth Cynllunio Ymlaen Llaw ac at y Dyfodol (y mae’r Athro Taubert yn ei gadeirio):

“Rwy’n adnabod Mark ac yn gweithio gydag ef ers blynyddoedd maith ac rydw i wedi cyfrannu at ei waith o safbwynt cleifion/gofalwyr.

“Mae ei ofal a’i dosturi mewn maes anodd yn rhagorol i gleifion a’u hanwyliaid.”

 

Cyhoeddwyd yr enwebiadau heddiw (dydd Iau 9 Mawrth) gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, mewn seremoni arbennig. Y Prif Weinidog meddai:

“Rwy'n falch o ddathlu 10fed blwyddyn y gwobrau a’r unigolion anhygoel yn ein rownd derfynol eleni.

“[Maen nhw] wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol. Rydyn ni'n ffodus iawn eu bod nhw’n byw yma yng Nghymru.”

 

Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal nos Iau 20 Ebrill 2023 ac mae’r cyfnod enwebu eisoes ar agor ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2024.

 

Ynglŷn â’r Gwobrau

The St David Awards are the national awards of Wales.

Each year there are 10 St David Awards, the first 9 of which are nominated for by the public: Business; Bravery; Community Spirit; Critical Worker (Key Worker); Culture; Environment; Innovation, Science and Technology; Sport; Young Person; First Minister's Special Award.

The finalists and winners are decided upon by the First Minister of the Welsh Government and his advisers.

Am fwy o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/gwobrau-dewi-sant.