Neidio i'r prif gynnwy

Dyma brif nodweddion Canolfan Ganser Felindre newydd

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac ACORN yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu Canolfan Ganser Felindre newydd.

Rydym yn edrych ymlaen at ein dwy sesiwn alw heibio gymunedol ynglŷn â’r ganolfan ganser newydd.

Cewch ddod i Glwb Rygbi’r Eglwys Newydd (Samuels Crescent, Caerdydd, CF14 2TH) a chwrdd â’r tîm rhwng 9am a 5pm ddydd Mawrth 18 Hydref neu rhwng 4pm ac 8pm ddydd Llun 24 Hydref.

Ynghyd â’n partneriaid yn ACORN, byddwn yn rhannu ein cynlluniau, yn ateb eich cwestiynau ac yn rhoi gwybod i chi sut mae modd cyfrannu at y camau nesaf.

I unrhyw un fydd yn methu dod i’n sesiynau, dyma’r ganolfan ganser newydd, brydferth, gain a chynaliadwy.

Lawrlwythwch y ddogfen hon i weld rhai o nodweddion allweddol Canolfan Ganser Newydd Felindre.

Mae’r ddogfen yn cynnwys delweddau cyfrifiadurol o’r dyluniadau a chipolwg cyffrous ar ein hymrwymiad cynaliadwy, fydd yn dwyn budd i gleifion, i’r staff ac i’r gymuned leol.

Cysylltwch â ni

Am unrhyw ymholiadau neu geisiadau am ragor o wybodaeth, e-bostiwch contact.velindre@wales.nhs.uk