Fel rhan o'n hymgyrch pen-blwydd yn 70 oed, rydym yn rhannu atgofion sy’n adlewyrchu’r tosturi, y caredigrwydd a’r ddynoliaeth sydd wedi bod wrth galon Gwasanaeth Canser Felindre dros y saith deg mlynedd diwethaf. Dyma stori un cydweithiwr.
Ychydig o bobl sydd yn gallu dweud eu bod nhw wedi helpu i adeiladu gwasanaeth y GIG o'r gwaelod i fyny. Gall llai fyth ddweud eu bod nhw wedi dod yn ôl ar ôl ymddeol oherwydd nad oeddent yn gallu aros i ffwrdd.
I Sue Acreman, mae Felindre wedi bod yn fwy na gweithle. Mae wedi bod yn rhan fawr o'i bywyd proffesiynol ers pedwar deg o flynyddoedd. Dechreuodd ei thaith ym maes gofal canser ar ôl iddi ofalu am glaf â chanser tra roedd yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y 1980au, a brofodd i fod yn drobwynt.
"Sylweddolais mai dyma ble roeddwn i eisiau bod," meddai Sue. "Doedd gen i ddim diddordeb mewn meysydd deieteg yn yr un ffordd. Gofal canser oedd beth oedd yn bwysig i mi."
Ar ôl sawl blwyddyn yn cefnogi cleifion â salwch terfynol yn y gymuned, ymunodd Sue â Felindre yn y 1990au, pan ddaeth yn Ymddiriedolaeth y GIG. Hi oedd y deietegydd cyntaf yng Nghymru i weithio'n benodol ym maes gofal canser. Byddai'r hyn a ddechreuodd fel gwasanaeth un person yn mynd ymlaen i gefnogi miloedd o gleifion a theuluoedd.
"Pan gyrhaeddais Felindre, dim ond fi oedd yno, dau therapydd galwedigaethol rhan-amser a dau ffisiotherapydd. Nid oedd gwasanaeth deieteteg penodol ar gael ar y pryd, felly roedd yn gyfle anhygoel i ddatblygu rhywbeth o'r dechrau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion," meddai Sue.
Dros y blynyddoedd, fe wnaeth dylanwad Sue ymestyn ymhell y tu hwnt i Felindre. Yn 2007, daeth yn Ymgynghorydd Proffesiynol Perthynol i Iechyd ym maes Adsefydlu Canser. Cyfrannodd hefyd at ddatblygiadau sylweddol mewn gofal canser ar draws Cymru a'r DU, gan gynnwys drafftio'r strategaethau adsefydlu canser cenedlaethol a helpu i ddatblygu nifer o safonau a llwybrau gofal.
Yn ystod gyrfa sy'n ymestyn dros fwy na phum deg mlynedd, mae Sue wedi gweld newidiadau enfawr mewn triniaeth canser a gofal cleifion. Un o'r datblygiadau mwyaf dros y blynyddoedd yw'r ffaith bod maeth bellach yn cael ei gydnabod yn rhan allweddol o drin ac adfer o ganser.
"Pan ddechreuais i gyntaf, gallai pobl ddirywio'n gyflym iawn. Dros amser, dechreuodd pobl ddeall yn well sut y gallai cefnogaeth faethol helpu pobl i gynnal eu cryfder, goddef triniaeth, a byw'n dda gyda chanser."
I Sue, doedd cefnogi cleifion erioed yn gyfrifoldeb un proffesiwn yn unig. Mae rhannu gwybodaeth a gwella dealltwriaeth o faeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill wedi bod yn rhan bwysig o'r rôl erioed.
"Mae maeth yn waith tîm. Rydw i wedi credu erioed mai cyfrifoldeb pawb yw deall maeth. Mae'n bwysig bod pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cydnabod y gwahaniaeth y gall cefnogaeth faethol dda ei wneud i rywun sy'n byw gyda chanser, ac mae hyn wedi bod yn llwyddiant mawr yn Felindre.
Er gwaethaf datblygiadau mewn ymchwil, technoleg a thriniaeth, mae hi'n credu bod un peth wedi aros yr un fath drwy gydol ei hamser gyda Felindre. Y claf sy'n dod gyntaf.
"Rydw i bob amser wedi meddwl y gallai'r person o fy mlaen i fod yn un o fy mherthnasau fy hun. Mae'n rhaid i chi feddwl am sut hoffech chi iddyn nhw gael eu trin, a gwneud yn siŵr eich bod chi'n rhoi'r urddas, y parch a'r gofal maen nhw'n eu haeddu i bob claf.
"Rwy’n credu bod yr agwedd honno’n cael ei rhannu gan lawer o’r bobl sy’n gweithio yn Felindre. Mae darparu profiad cadarnhaol i gleifion wedi bod yn flaenoriaeth erioed, a rhaid iddo barhau i fod yn flaenoriaeth i bawb sy'n gweithio ym maes gofal canser."
Fe wnaeth Sue ymddeol o gyflogaeth amser llawn yn 2012, ond ni ddiflannodd ei chysylltiad â Felindre erioed.
Pan osododd pandemig COVID-19 bwysau digynsail ar wasanaethau gofal iechyd, dychwelodd i gefnogi cydweithwyr a chleifion. Yn fwy diweddar, daeth yn ôl fel locwm yn 2024 a 2025, cyn ymuno â'r banc ym mis Mai 2026.
"Roedd dod yn ôl yn teimlo fel dod adref. Yn amlwg, roedd rhai pethau wedi newid. Roedd yna bobl newydd, gwisgoedd gwahanol a doeddwn i ddim yn rheoli pethau mwyach, ond roeddwn i'n falch iawn o weld faint roedd y maes deieteg wedi symud ymlaen a datblygu. Serch hynny, doedd y pethau pwysig ddim wedi newid.
"Fe wnes i gymhwyso yn y maes fwy na 50 mlynedd yn ôl, ac un peth rydw i'n sicr ohono yw na fuaswn i'n gweithio yn unman arall."
Yn ystod 70 mlynedd o hanes Felindre, mae cenedlaethau o gydweithwyr wedi helpu i lunio'r gwasanaeth drwy eu harbenigedd, eu tosturi a'u hymrwymiad i ofal cleifion. I Sue, y diwylliant hwnnw sy'n gwneud Felindre yn unigryw.
"Rwy'n credu bod pobl sy'n gweithio ym maes gofal canser yn aml yn teimlo ei fod yn alwedigaeth. Ond mae’n fwy na dim ond swydd. Rydych chi'n dod yn rhan o rywbeth sydd yn wirioneddol bwysig, ac mae'r bobl rydych chi'n gweithio ochr yn ochr â nhw yn ei wneud yn arbennig iawn."
Wrth i Wasanaeth Canser Felindre ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed, mae stori Sue yn adlewyrchu cyfraniad nifer dirifedi o staff sydd wedi helpu i adeiladu'r gwasanaeth i fod yr hyn yr ydyw heddiw. Wrth edrych yn ôl, y teimlad mwyaf sy'n sefyll allan iddi yw teimlad o ddiolchgarwch.
"Rydw i wedi gallu gwneud rhywbeth rydw i’n ei garu, gyda phobl anhygoel, a gwneud gwahaniaeth i gleifion. Rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod i wedi cael y cyfle hwnnw.
"Yn fy marn i, rydym yn gweithio yn y lle gorau yn y byd, gyda'r grwpiau cleifion gorau.
""Ac os oes unrhyw un wedi bod yn gweithio yn Felindre am fwy o amser na fi, fe wnâi brynu diod iddyn nhw!"
Mae stori Gwasanaeth Canser Felindre wedi cael ei siapio gan filoedd o gleifion, teuluoedd, staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr.
Fel rhan o'n hymgyrch pen-blwydd yn 70 oed, rydym yn casglu atgofion, lluniau a straeon sy'n helpu i adrodd stori Felindre drwy'r bobl sy'n ei hadnabod orau.