Mae Arbenigwyr Nyrsio Clinigol Canser (CNS) yn galon gofal sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae eu harbenigedd, eu tosturi, a'u hymroddiad yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r rhai sy'n wynebu diagnosis canser. Ar Ddiwrnod Cenedlaethol CNS Canser, mae mor bwysig cydnabod a dathlu'r gwaith anhygoel y mae ein staff CNS yn ei wneud bob dydd.
Ond sut y cyrhaeddon nhw lle maen nhw heddiw?
Ar y Diwrnod Cenedlaethol CNS Canser hwn, siaradon ni ag Alison Edwards (Ysgyfaint) a Donna Lee (GI Uchaf) am eu taith i ddod yn CNS, a'r profiad gwerthfawr maen nhw wedi'i ennill ar hyd y ffordd
“Rwy'n cofio bod ym mlwyddyn olaf fy hyfforddiant fel nyrs a gweithio gyda nyrsys clinigol arbenigol a meddwl: dyna beth dwi am ei wneud" - Donna Lee
“Mae ein gweithlu Nyrsys Clinigol Arbenigol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gofal a’r driniaeth rydyn ni’n eu darparu i’n cleifion bob dydd, ac roeddwn i eisiau dweud diolch enfawr i bawb.”
- Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd