Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Canser y Byd 2024 | Ein cymorth i gleifion canser

4 Chwefror 2024

Heddiw, ddydd Sul 4 Chwefror, yw Diwrnod Canser y Byd. Mae’r diwrnod ymwybyddiaeth hwn yn cael ei gynnal bob blwyddyn ers 24 o flynyddoedd, a daw pobl o bob lliw a llun ynghyd i godi ymwybyddiaeth o ganser. 

Mae canser yn bwysig i ni bob dydd yng Nghanolfan Ganser Felindre; bydd un o bob dau berson yn y DU yn delio â chanser yn ystod eu bywyd. Daw llawer o’r rheiny yn ne-ddwyrain Cymru drwy ein drysau ni, a ninnau wedi cael cynifer â 9,000 o atgyfeiriadau newydd am gleifion yn 2023. 

Rydym yn gwasanaethu poblogaeth o 1.5 miliwn o bobl a mwy ac, yn rhinwedd ein rôl fel canolfan ganser arbenigol, rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau gydag arbenigwyr ar draws sawl gwahanol faes o ofal canser. 

Ar Ddiwrnod Canser y Byd 2024, rydym am dynnu sylw at rai o’r gwasanaethau hyn a dweud diolch wrth ein gweithlu anhygoel sy’n mynd y filltir ychwanegol i helpu cleifion a’u hanwyliaid bob dydd. 

Dyma Dr Betsan Thomas yn esbonio ei rôl fel ymgynghorydd, y ffordd mae’r timau amlddisgyblaethol yn cydweithio, a phwysigrwydd llais cleifion.

Mae ein Hadran Therapïau’n cynnwys Deieteg, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol a Therapi Iaith a Lleferydd. Maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau cleifion, fel mae ein Pennaeth Therapïau Macmillan, Kate Baker, yn esbonio.

Mae rôl hollbwysig gan therapi gwrth-ganser systemig o ran sicrhau bod pob claf sy’n camu trwy ein drysau’n cael y moddion sydd eu hangen  arnynt. Cewch wybod mwy gan Bethan Tranter, ein Prif Fferyllydd.

Mae dod i’r ganolfan ganser yn gallu bod yn brofiad brawychus, ond mae ein staff yn mynd allan o’u ffordd i wneud yn siŵr fod ein hymwelwyr mor gyfforddus â phosibl. Dyma Dr Aisling Butler yn sôn mwy am ymweld â’r Gwasanaeth Radioleg a beth gall cleifion ei ddisgwyl wrth gyrraedd.

Cafodd y fideos hyn eu recordio yn rhan o brosiect RITA gan ein Tîm Arloesi. Mae rhagor o fideos fel hyn ar RITA, sef cynorthwyydd ar-lein cyntaf y byd sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddarparu cyngor penodol i faes oncoleg. Ewch i’n gwefan a chliciwch ar eicon RITA ar y dde ar waelod y sgrin i sgwrsio â ni.