Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Cenedlaethol y Proffesiynwyr Iechyd Hapus!

Mae Canolfan Ganser Felindre yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs).

Bob blwyddyn, mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar draws y sector iechyd yn dod ynghyd i ddathlu bod yn rhan o’r teulu, yn ogystal ag arddangos eu cyfraniad at ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Dyma'r trydydd gweithlu gofal iechyd mwyaf, ac mae'n cynnwys 13 o broffesiynau, sy'n uno yn eu cred ym mhwysigrwydd galluogi cymunedau i fyw’r bywyd maen nhw am eu byw.

Y 13 o broffesiynau perthynol i iechyd yng Nghymru yw: Therapi Celf, Therapi Drama, Dieteteg, Therapi Cerdd, Therapi Galwedigaethol, Orthopteg, Orthoteg, Parafeddygaeth, Ffisiotherapi, Podiatreg, Seicoleg Ymarferol, Prostheteg, a Therapi Iaith a Lleferydd.

Yn unigol ac ar y cyd, mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gweithio i rymuso pobl o bob oed, o’u genedigaeth hyd at ddiwedd eu hoes, i reoli eu lles eu hunain ac atal neu leihau effaith salwch ac anabledd seicolegol a chorfforol.

Meddai Kate Baker, Pennaeth Therapïau Macmillan, “Rwy’n falch o fod yn weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd a hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i’n gweithlu yn yr Ymddiriedolaeth ac i bob gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd arall sy’n gweithio gyda chleifion.

“Mae pob diwrnod yn wahanol i ni, ond rydyn ni'n gweithio gyda chleifion i geisio gwella ansawdd eu bywyd a’u hannibyniaeth, cyn, yn ystod ac ar ôl eu triniaeth.”

P’un a ydych chi'n weithiwr cymorth, yn ymarferydd cynorthwyol, yn weithiwr proffesiynol cofrestredig, yn brentis cyn-gofrestru neu’n fyfyriwr, neu’n rhywun sydd am ddiolch i'r garfan hon o weithwyr, mae croeso i bob aelod o'r gymuned ymuno â'r dathlu.

Dilynwch weithgareddau'r diwrnod ar Twitter ar #AHPsDay a #AHPsDay2022, a dyma gipolwg ar rôl y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd 👇