Neidio i'r prif gynnwy

Helpu i atal heintiau rhag lledaenu wrth i achosion firysau'r gaeaf godi

Mae nifer yr achosion o firysau’r gaeaf gan gynnwys y ffliw, norofeirws, y coronafeirws a’r feirws syncytiol anadlol (RSV) yn cynyddu ar draws de Cymru.

I bobl sydd â chyflyrau iechyd presennol, ac yn enwedig y rhai sy'n cael triniaeth sy’n gallu effeithio'n andwyol ar allu eu system imiwnedd i ymateb, gall firysau achosi cymhlethdodau difrifol iawn.

 

O ganlyniad, er mwyn cadw’ch hun, ein cleifion eraill a’n staff mor ddiogel â phosibl ac i atal heintiau rhag lledaenu, rydym yn cyflwyno’r mesurau canlynol ar draws safleoedd Gwasanaeth Canser Felindre ar unwaith:

  • Peidiwch â mynd i unrhyw un o safleoedd Gwasanaeth Canser Felindre os oes gennych symptomau haint anadlol neu symptomau norofeirws – mae hyn yn berthnasol i gleifion a pherthnasau / ymwelwyr. Mae rhagor o wybodaeth am y symptomau hyn ar wefan y GIG (Saesneg yn unig).
  • Os oes apwyntiad gennych yn Felindre ond mae gennych symptomau, cysylltwch â'r adran rydych i fod i fynd iddi er mwyn cael cyngor. Os ydych chi’n cael triniaeth cemotherapi neu imiwnotherapi, cysylltwch ag ysgrifennydd eich ymgynghorydd am gyngor.
  • Os ydych chi'n cael triniaeth cemotherapi, imiwnotherapi neu radiotherapi gyda ni ac os oes gennych chi symptomau firaol ac yn teimlo'n sâl neu os oes gennych chi dymheredd, mae croeso mawr i chi gysylltu â'n llinell gymorth 24/7 am gyngor.
  • Os byddwch chi’n dod i un o safleoedd Gwasanaeth Canser Felindre fel claf neu ymwelydd, gwisgwch fasg wyneb os yw’n bosibl – bydd y rhain ar gael wrth y prif fynedfeydd. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod chi’n golchi eich dwylo cyn dod i mewn. Eto, bydd diheintydd dwylo ar gael wrth bob mynedfa.
  • Ffordd allweddol o leihau'r risg o ledaenu heintiau yw lleihau nifer y bobl sy'n dod i’r safle. Rydym felly’n gofyn i bob claf ddod â dim mwy nag un ymwelydd i unrhyw apwyntiad fel claf allanol. Os ydych yn credu bod amgylchiadau eithriadol gennych, siaradwch ag uwch aelod o’r staff. Ar gyfer ward y cleifion mewnol, bydd cyfyngiad llym o ddim mwy nag un ymwelydd i bob claf ar unrhyw un adeg. Bydd eithriadau i hyn yn dibynnu ar wahanol sefyllfaoedd. Os oes unrhyw bryderon gennych, siaradwch â'r nyrs wrth y llyw. Bydd gofyn hefyd i ymwelwyr wisgo masg wyneb tra byddant ar ward y cleifion mewnol ac ym mhob ardal glinigol yn y ganolfan ganser.

Bydd y mesurau uchod ar waith o ddydd Mawrth 31 Rhagfyr 2024 hyd nes cewch wybod yn wahanol.

 

Wrth roi gwaed neu gynhyrchion gwaed, er mwyn cadw eich hunain, rhoddwyr eraill a’n staff mor ddiogel â phosibl ac i atal heintiau rhag lledaenu, byddem yn ddiolchgar am eich cymorth gyda’r canlynol:

  • Peidiwch â dod i unrhyw un o'r clinigau os oes gennych unrhyw symptomau o haint (mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG [ar gael yn Saesneg yn unig]). Cysylltwch â ni i roi gwybod.
  • Peidiwch â dod i roi unrhyw waed nes bod eich symptomau wedi gwella. Os ydych wedi cael y ffliw neu haint ac mae angen gwrthfiotigau arnoch, ddylech chi ddim rhoi gwaed am 14 diwrnod ar ôl gwella neu 7 diwrnod ar ôl cwblhau'r gwrthfiotigau – p'un bynnag sydd gyntaf. Os ydych wedi cael annwyd (e.e. dim ond symptomau dolur gwddf, peswch sych neu drwyn sy’n rhedeg) gallwch roi gwaed cyn gynted ag y bydd eich symptomau wedi gwella.
  • Defnyddiwch ddiheintydd dwylo cyn mynd i mewn i'r clinig. Bydd y rhain ar gael wrth y prif fynedfeydd.
  • Bydd masgiau wyneb ar gael tra byddwch yn y clinig os ydych yn dymuno eu gwisgo, ond nid yw'r rhain yn orfodol. Caiff ein staff hefyd wisgo masg wyneb, ond nid yw hynny'n orfodol chwaith.

 

Diolch am eich cymorth i gadw ein gwasanaethau mor ddiogel â phosibl.