29 Gorffennaf 2025
Mae Gwasanaeth Canser Felindre wedi dechrau gwasanaeth newydd yr wythnos hon ar gyfer cleifion sydd â thiwmorau niwroendocrinaidd, gan gynnig triniaeth leol gyda dull arbenigol o therapi radionewclid penodol.
Yn rhan o Wasanaeth Tiwmorau Niwroendocrinaidd De Cymru, sy’n ganolfan ragoriaeth Cymdeithas Tiwmorau Niwroendocrinaidd Ewrop (ENETS), mae Gwasanaeth Canser Felindre wedi dechrau darparu Therapi Radionewclid Derbynydd Peptid (PRRT), sef triniaeth flaengar ym maes meddygaeth niwclear i gleifion sydd â thiwmorau niwroendocrinaidd.
Mae’r gwasanaeth clinigol newydd hwn yn golygu bod modd i oedolion o bob rhan o dde a chanolbarth Cymru gael y driniaeth arbenigol hon yng Nghymru heb orfod teithio i The Royal Free Hospital yn Llundain.
Meddai un o’r cleifion cyntaf i gael PRRT:
“Rwy’n hapus iawn gyda’r holl staff yn ystod fy nhriniaeth – roedden nhw’n broffesiynol ac yn garedig ac roedden nhw’n helpu i dawelu fy meddwl. Roedd cael y driniaeth yma yn hytrach na gorfod teithio i Lundain yn rhyddhad mawr.”
Ffurf o radiotherapi moleciwlaidd yw PRRT, lle mae claf yn cael sylwedd ymbelydrol drwy’r wythïen sy’n targedu mannau o afiechyd drwy rwymo i’r derbynyddion ar gelloedd y tiwmor.
Unwaith y bydd y sylwedd ymbelydrol y tu mewn i gelloedd y tiwmor, bydd yn rhoi dos o ymbelydredd hynod o leol i’r tiwmor wrth leihau’r ddos i’r meinweoedd arferol. Fel arfer, bydd cwrs llawn o driniaeth yn cynnwys pedair dos o’r sylwedd ymbelydrol bob wyth wythnos.
Meddai Dr Carys Morgan, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Canser Felindre:
“Mae’r ffaith ein bod ni’n gallu rhoi’r driniaeth hon yn lleol i gleifion yng Nghymru yn hynod o gyffrous, ac mae’n wych gweld ein gwasanaethau radiotherapi moleciwlaidd yn datblygu. Mae’n ymdrech aml-ddisgyblaethol go iawn i ddarparu’r driniaeth arbenigol hon ac rwy’n gobeithio bodd modd i ni ehangu ein gwasanaeth ymhellach gyda threialon clinigol a therapïau newydd yn y dyfodol.”
Mae tiwmorau niwroendocrinaidd yn grŵp prin ac amrywiol o ganser sy’n deillio o gelloedd niwroendocrinaidd, sef celloedd arbenigol sy’n bodoli mewn amryw rannau o’r corff. Gan amlaf, mae’r tiwmorau hyn yn datblygu yn y llwybr gastroberfeddol, y pancreas, a’r ysgyfaint, ond gallant fodoli mewn llawer o organau eraill.
Meddai Dr Matthew Talboys, Pennaeth Meddygaeth Niwclear Gwasanaeth Canser Felindre:
“Rwy’n hynod o falch o’n Tîm Meddygaeth Niwclear am allu darparu PRRT i gleifion yng Nghymru a darparu eu gofal yn nes at eu cartref. Yn rhan o’r tîm aml-ddisgyblaethol, ynghyd â chefnogaeth arbenigol o ran rheoli’r prosiect, rydyn ni wedi llwyddo i roi PRRT i glaf am y tro cyntaf.”
Yn y DU, mae oddeutu 6,000 o bobl yn cael diagnosis o diwmor niwroendocrinaidd bob blwyddyn. Maent yn anghyffredin ac mae eu symptomau yn aml yn aneglur, felly gall diagnosis gymryd amser, sy’n golygu bod cael triniaeth arbenigol a phrydlon yn hollbwysig.