4 Hydref 2023
Cyflwynwyd Gwobr Dewis y Bobl ddydd Gwener yn rhan o Wobrau Rhagoriaeth Gweithlu Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Ar ôl cael nifer o enwebiadau cyhoeddus yn dilyn galwad trwy ein hamrywiaeth o sianeli, enillydd y wobr oedd Michele, sy’n Nyrs Arweiniol Gofal Cefnogol yng Nghanolfan Ganser Felindre.
Disgrifiwyd Michele fel dynes “eithriadol” sy’n gweithio bob awr i ofalu am ei chleifion a’u perthnasau. Dywedodd enwebydd arall: “Dydw i wir ddim yn gwybod sut byddai Felindre'n ymdopi hebddi.”
Manylodd llawer ar y ffordd aeth hi y filltir ychwanegol ar gyfer ei chleifion a’u teulu yn ystod eu triniaeth. Esboniodd un enwebydd sut aeth hi â’i blant ar “daith dywys” o amgylch y Ganolfan Ganser i’w helpu i ddeall triniaeth eu tad yn well, a dywedodd un arall fod ei gofal a’i thosturi tuag ati hi a’i theulu yn golygu ei bod “yn teimlo fel ffrind yn syth bin.”
Cyrhaeddodd dau dîm arall y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl: y Tîm Afferesis yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, am ddarparu gwasanaeth rhagorol yn gyson, gan wneud i bobl deimlo’n gartrefol ac yn fodlon dychwelyd i roi eto yn y dyfodol; a Thîm Prosiect Canolfan Ganser Felindre Newydd, am eu hymrwymiad i gyflawni'r prosiect trwy weithio'n galed yn unigol ac ar y cyd.
Rydym wir yn gwerthfawrogi cyfraniad y cyhoedd at y categori hwn a chymaint mor ystyrlon mae canmoliaeth ac adborth gan gleifion a rhoddwyr.
Yn ddiweddar, dathlodd Michele garreg filltir o 40 mlynedd ym maes nyrsio, gyda’r mwyafrif helaeth o’r cyfnod hwnnw yn Felindre, ac fe lansiodd gyfres o heriau codi arian i nodi’r achlysur.
Cododd ‘The Big 40 Challenge’ dros £4,000 i ariannu adnoddau’r plant yn y Ganolfan Ganser, yr un adnoddau roedd gan Michele ran hanfodol o ran eu creu.
Mae adnoddau'r plant yn cynnwys llyfrau addysgol sy'n helpu i egluro diagnosis o ganser i blentyn, pâr o deganau llew rhiant a phlentyn, 'anghenfilod pryderon' i helpu plant i rannu eu hofnau a'u pryderon, a blychau atgofion i storio eitemau arbennig sy’n ymwneud â’u hanwyliaid.
Roedd pob £10 a godwyd yn ddigon i roi adnodd i blentyn, sy’n golygu bod her Michele wedi codi digon i gefnogi dros 400 o deuluoedd yn ystod cyfnod hynod o anodd yn eu bywyd.