Neidio i'r prif gynnwy

Derbyniad brenhinol i'n nyrsys rhyngwladol

Two people are dressed smartly and smiling.

8 Rhagfyr 2024

Gwahoddwyd dwy nyrs o'r Ymddiriedolaeth i dderbyniad brenhinol yn gynharach y mis hwn yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y GIG a’r Brenin yn 75 oed.

Aeth nyrs o Wasanaeth Gwaed Cymru a nyrs o Ganolfan Ganser Felindre i’r digwyddiad arbennig ym Mhalas Buckingham a oedd yn cydnabod cyfraniad nyrsys a bydwragedd rhyngwladol sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig.

Cafodd Fariba Thompson, sy’n Nyrs Arbenigol gyda Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, a Carlton Weiquan, sy’n Nyrs ar Ward y Llawr Cyntaf yng Nghanolfan Ganser Felindre, eu henwebu gan eu huwch nyrsys i fynd.

“Ces i’r gwahoddiad drwy’r post ac roedd e’n sioc fawr,” meddai Carlton. “Ces i wybod yn ddiweddarach fod un o fy uwch nyrsys wedi fy enwebu i fynd.

“Yn anffodus, ches i ddim cyfle i siarad na thynnu llun gyda’r Brenin, ond llwyddais i ysgwyd ei law ar ôl sawl ymgais i chwilio am gyfle.

Meddai Fariba, “Pan ges i’r gwahoddiad yn y gwaith i fynd i’r derbyniad ym Mhalas Buckingham, roedd hi’n syndod ac yn bleser, yn enwedig gan ei fod ddiwrnod cyn fy mhen-blwydd. Roedd fy holl gydweithwyr yn falch iawn ohonof ac yn gefnogol iawn.

“Ces i’r fraint o ysgwyd llaw’r Brenin a chael sgwrs fach ag ef. Dymunais ben-blwydd hapus iddo, fel y gwnaeth pawb yn yr ystafell siŵr o fod. Gofynnodd a ges i ddiwrnod o’r gwaith i ddod, ac yna dymunodd ddiwrnod da i mi.”

“Mae fy rôl yn werth chweil ac yn rhoi boddhad mawr i mi”

Mae Fariba Thompson yn gweithio fel nyrs arbenigol ar gyfer Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru am y tair blynedd diwethaf. Symudodd i Gymru yn ei harddegau a dechreuodd ei gyrfa nyrsio gofrestredig yn 1991.

“Ces i fy ngeni yn Iran a symudais i Abertawe yn 17 oed oherwydd rhyfel a rhesymau gwleidyddol lle roedd fy mywyd mewn perygl. Roedd rhaid i mi ddysgu Saesneg a dod i arfer â’r tywydd oer, diwylliant gwahanol, a bwyd gwahanol, ond yn gyflym iawn daeth Cymru’n gartref i mi.

“Dechreuodd fy ngyrfa nyrsio yn 1991 pan wnes i gymhwyso fel nyrs gyffredinol gofrestredig, ac yna cwblhau fy hyfforddiant bydwreigiaeth ym 1994. Rwy’n gweithio i’r GIG ers dros 30 mlynedd fel nyrs, bydwraig ac yna fel nyrs eto. Mae fy swyddi nyrsio a bydwreigiaeth wedi bod yn amrywiol ac maen nhw’ rhoi boddhad i mi. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio ar wardiau meddygol a haematoleg, wardiau geni ac unedau asesu meddygol mamolaeth.

“Ar ôl gweithio fel bydwraig am 17 mlynedd, penderfynais i ddychwelyd i nyrsio ac yn 2008 ymunais i â Gwasanaeth Gwaed Cymru fel nyrs clinig yn y clinig rhoi platennau.

“Dair blynedd yn ôl, dechreuais fy swydd bresennol yn nhîm Cofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru fel nyrs arbenigol yn casglu bôn-gelloedd a mêr esgyrn. Rydw i wrth fy modd â fy swydd sy’n cynnwys trefnu a chynnal archwiliadau sgrinio meddygol, sesiynau cwnsela, a chasglu bôn-gelloedd oddi wrth roddwyr cyfatebol sydd ddim yn perthyn i’w gilydd er mwyn trin cleifion gydag anhwylderau gwaed difrifol fel lymffoma neu lewcemia.

“Mae fy rôl yn werth chweil ac yn rhoi boddhad mawr i mi. Rydw i mor falch o fod yn rhan o dîm y Gofrestrfa ac o wneud cymaint o wahaniaeth ym mywyd rhywun. Mae'n galonogol iawn cael llythyrau/cardiau gan gleifion a'u teuluoedd i ddweud diolch wrth roddwyr bôn-gelloedd. Mae’n rhoi gobaith i mi fod pobl yn y byd hwn sydd, trwy fod anhunanol ac yn garedig, yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i ansawdd bywyd dieithryn.”

Dyma Fariba yn sôn am ddigwyddiadau'r dydd.

 

“Es i'r derbyniad gyda Carlton o’r Ganolfan Ganser. Roedd y ddau ohonom ni’n edrych ymlaen yn fawr ond roedden ni hefyd ychydig yn nerfus. Roedd rhaid ciwio wrth giât y palas gyda’r bobl eraill oedd yn mynychu a defnyddion ni’r cyfle i dynnu lluniau ac edmygu beth roedd pobl eraill yn ei wisgo. Roedd yr amrywiaeth o wisgoedd traddodiadol a chenedlaethol yn lliwgar ac yn hardd iawn.

“Aethon ni i mewn i’r palas ar ôl i warchodwyr y palas wirio ein cardiau adnabod a’n gwahoddiadau.

“Unwaith i ni fynd y tu mewn i’r palas, yn ein cyfarch roedd sŵn hyfryd côr Lewisham and Greenwich NHS, yna cawson ni ein cyfeirio at yr ystafell ddawns lle roedd diodydd a chanapés.

“Ces i’r fraint o ysgwyd llaw’r Brenin a chael sgwrs fach ag ef. Dymunais ben-blwydd hapus iddo, fel y gwnaeth pawb yn yr ystafell siŵr o fod. Gofynnodd a ges i ddiwrnod o’r gwaith i ddod, ac yna dymunodd ddiwrnod da i mi.

“Ar ôl i’r Brenin gerdded o amgylch yr ystafell a chyn iddo adael, ymunodd pawb â’r côr i ganu ‘Pen-blwydd Hapus’ iddo.

“Ces i fy synnu’n fawr fod y Brenin yn fodlon cynnal y digwyddiad hwn ar ei ben-blwydd yn 75 i gydnabod a dathlu cyfraniad nyrsys a bydwragedd rhyngwladol yn sector iechyd a gofal cymdeithasol y DU. Roedd hi’n berthnasol iawn hefyd  gan fod eleni’n nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG.”

Dywedodd Fariba ei bod wrth ei bodd yn cael y cyfle i weld a siarad â'r Brenin. Mae’r holl brofiad yn rhywbeth y mae’n ddiolchgar iawn amdano ac na fydd byth yn ei anghofio, gan fod nyrsys, bydwragedd a staff eraill sy’n gweithio yn y GIG yn haeddu cael eu cydnabod a’u dathlu am eu cyfraniad at iechyd a gofal cymdeithasol y DU.

“Mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn ac yn barod i helpu”

Mae Carlton Weiquan yn Nyrs ar Ward y Llawr Cyntaf yng Nghanolfan Ganser Felindre ers mis Mehefin 2023 ac yn gofalu am gleifion mewnol yn ystod eu harhosiad. Daeth draw i’r DU yn gyntaf i astudio ym Mhrifysgol De Cymru cyn ymuno â Chanolfan Ganser Felindre ar ôl hynny.

“Roeddwn i’n 21 oed pan ddes i’r DU am y tro cyntaf ac mae’n anhygoel gymaint mae amser wedi hedfan heibio!

“Roeddwn i’n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl i mi raddio tan fis Mehefin eleni pan ddechreuais i yma yn Felindre. Ymunais i â Felindre gan fy mod i’n barod am newid a gan fod un o fy ffrindiau wedi dechrau gweithio yma tua blwyddyn a hanner cyn hynny a dweud pethau da ynglŷn â’r ward a'r cymorth sydd ar gael i'r staff.

“Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn gofal lliniarol ac roeddwn i’n meddwl y bydda i’n gallu dysgu cryn dipyn yma. Rwy'n nyrs gofrestredig ar Ward y Llawr Cyntaf, felly rwy'n gofalu am gleifion mewnol yma yn bennaf. Rwy'n eu helpu nhw gyda gweithgareddau pob dydd, yn rhoi moddion iddyn nhw, yn monitro eu clwyfau a'u gorchuddion, yn cynllunio’r broses o’u rhyddhau o’r ysbyty, i enwi rhai.

“O ran bod yn nyrs ryngwladol, rwy’n meddwl ei bod hi’n braf siarad â chleifion ynglŷn â ble rydw i’n dod a’r gwahaniaethau mewn diwylliant a ffyrdd o fyw. Weithiau, os ydyn nhw wedi bod yno o’r blaen neu i’r gwledydd cyfagos, mae’n braf wedyn trafod beth roedden nhw’n ei hoffi a’i fwynhau fwyaf (yn enwedig y bwyd!). Mae hynny weithiau'n rhoi cyfle i mi fagu perthynas dda â nhw.

“Mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn ac yn barod i helpu, sydd wedi fy helpu i ymgartrefu yma. Dwi hefyd yn hoff iawn o ddod i adnabod cleifion a’u teulu a gwybod fy mod i’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iddyn nhw.”

Aeth Carlton ati i esbonio beth ddigwyddodd ar ddiwrnod y digwyddiad.

“Cwrddais i â Fariba o Wasanaethau Gwaed Cymru yn lobi ei gwesty yn Llundain, ac o fyna cerddon ni am tua 10 munud i’r Palas. Roedd ciw wrth giatiau'r Palas ac fe wnaethon nhw wirio ein cardiau adnabod a'n gwahoddiad, yna roedden ni yng ngiatiau'r Palas!

“Gadawon ni ein cotiau yn yr ystafell gotiau cyn mynd i fyny'r grisiau mawreddog ac i mewn i un o'r ystafelloedd dawns lle roedden nhw'n gweini diodydd a chanapés. Ar ôl peth amser, sylwais i ar fflachiadau'n mynd i ffwrdd a nodi bod y Brenin wedi cyrraedd.

“Yn anffodus, ches i ddim cyfle i siarad na thynnu llun gydag ef. Ar un adeg, bron i mi gael cyfle, ond roedd y dorf yn y ffordd. Llwyddais i ysgwyd ei law ar ôl sawl ymgais i chwilio am gyfle a’i ddilyn o gwmpas yr ystafell yn ceisio bachu ar gyfle. Roeddwn i’n ysu am gael llun gyda’r Brenin ar ôl i fy mam gael un gydag ef pan oedd e’n dal i fod yn Dywysog Cymru sawl blynedd yn ôl. Byddai’n braf rhoi’r ddau lun at ei gilydd.

“Ar ôl i’r Brenin gerdded o gwmpas yr ystafell, canodd y côr ddwy gân iddo, a’r ail oedd ‘Pen-blwydd Hapus’ ac ymunodd yr ystafell gyfan â’r canu. Yna, gadawodd a daeth y derbyniad i ben.”