Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu pen-blwydd cyntaf wrth arddangos ar lefel genedlaethol

4 Rhagfyr 2023

A ninnau’n dathlu blwyddyn gyfan ers lansio Gwasanaeth Canser Heb Darddiad Sylfaenol Hysbys/Malaenedd Heb Darddiad Hysbys De-ddwyrain Cymru ym mis Tachwedd 2022, doedd dim byd yn fwy addas nag arddangos canlyniadau clinigol cadarnhaol yng nghynhadledd genedlaethol UKONS ym mis Tachwedd eleni.

Cyflwynodd Ceri Davies, ein Nyrs Glinigol Arbenigol sy’n arbenigo ar Ganser Heb Darddiad Sylfaenol Hysbys, ddau boster sy’n dangos sut mae cydweithio ar draws timau oncoleg acíwt mewn byrddau iechyd/canolfannau canser trydyddol a sut mae cyfraniad gan dimau amlddisgyblaethol wedi gwella nid yn unig rhoi diagnosis cynnar, ond hefyd y gallu i fynd at dimau arbenigol oncoleg/lliniarol a gwell profiad i gleifion yn y garfan hon.

Meddai Dr Sonali Dasgupta, sy’n Oncolegydd Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Felindre:

“Ar ran y Tîm Canser Heb Darddiad Sylfaenol Hysbys yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, hoffwn i ddiolch i’n timau penodol i leoliad y tiwmor a’r byrddau iechyd lleol yn ne-ddwyrain Cymraeg am eu cymorth parhaus, eu hatgyfeiriadau a’u hewyllys da. Hoffem ni hefyd ddiolch i’n cleifion annwyl am eu hadborth cadarnhaol ar y gwasanaeth hwn.”

Roedd Ceri (isod) yn gyd-awdur ar ddau boster a gyflwynodd yng nghynhadledd flynyddol UKONS yng Nghasnewydd y mis diwethaf.Roedd Ceri (isod) yn gyd-awdur ar ddau boster a gyflwynodd yng nghynhadledd flynyddol UKONS yng Nghasnewydd y mis diwethaf.

ChwithCollaborative working to develop a regional MUOCUP service, gan Ceri Davies a Nyrsys Clinigol Arbenigol ym maes Oncoleg Acíwt ym Myrddau Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf Morgannwg.

DeMulti-disciplinary approach enhancing clinical outcomes in Carcinoma of Unknown Primary patients, gan Ceri Davies a Dr Dr Sonali Dasgupta, Dr George Joseph, Dr Aisling Butler (oll o Ganolfan Ganser Felindre) a Dr Meleri Morgan a Dr Alice Richards (BIP Caerdydd a'r Fro).