Cynhaliodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ei Chynhadledd Ymgysylltiad Meddygol eleni yng Ngerddi Sophia.
“Nod heddiw yw camu yn ôl ac edrych ar yr holl waith o arloesi, gwella a thrawsnewid rydyn ni'n eu harwain.”
– Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
Roedd y gynhadledd yn gyfle i ddathlu cyrhaeddiadau'r staff meddygol ac i feithrin cydweithrediad rhwng Gwasanaeth Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Ymhlith holl eitemau'r agenda roedd pedair sesiwn allweddol:
Ymchwil a datblygu (Cadeirydd: Yr Athro Rob Jones)
Datblygu ein gweithlu yn y dyfodol (Cadeirydd: Dr Indu Thakur)
Arloesi a gwella (Dr Richard Webster)
Ein proffil arweinyddiaeth (Dr Mick Button)
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cinio rhwydweithio ac arddangosfeydd gan adrannau'r Ymddiriedolaeth a noddwyr.
Yn ogystal â hynny, cafodd y mynychwyr gyfle i glywed dwy brif araith rymus gan yr Athro Phil Kloer, sy'n Brif Weithredwr ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’r Athro Rich Withnall, sy'n Brif Weithredwr ar y Gyfadran Arwain a Rheoli Meddygol (FMLM). Rhoddwyd sylw ar y dirwedd arweinyddiaeth feddygol yng Nghymru a ledled y DU.
“Fe wnaeth Cynhadledd Ymgysylltiad Meddygol Felindre greu cyfleoedd newydd i ymgysylltu ag arweinwyr hirhoedlog y GIG, arddangos rhagoriaeth a rhannu gwybodaeth trwy gyfleoedd rhwydweithio. Yn y pen draw, bydd hyn oll o fudd i bobl yng Nghymru.”
– Kalinga Perera, Ymgynghorydd Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chyfarwyddwr Meddygol Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru
Diolch i'r holl siaradwyr, trefnwyr a mynychwyr am ganiatáu i ni ddathlu llwyddiant, arloesedd a gwelliant ar draws y sefydliad.