Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu blwyddyn ers i nyrsys sydd wedi eu haddysgu'n rhyngwladol ddechrau yn Felindre

Roedd 14 Chwefror 2025 yn garreg filltir arwyddocaol i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre gan ei fod yn flwyddyn ers i nyrsys sydd wedi eu haddysgu'n rhyngwladol ymuno â ni yma o Kerala yn India.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein 14 o nyrsys ymroddedig wedi cael effaith ddofn, gan ddod â sgiliau amhrisiadwy, safbwyntiau amrywiol, ac yn bwysicaf oll, ymrwymiad diwyro i ofal cleifion.

Blwyddyn o dwf ac ymroddiad

Mae’r mynd o nyrsio mewn system gofal iechyd wahanol i ddod yn rhan annatod o GIG Cymru wedi bod yn daith heriol ond gwerth chweil. Mae llawer ohonynt wedi gorfod addasu i arferion clinigol newydd a thra wahanol, disgwyliadau diwylliannol, a fframweithiau rheoleiddio. Er gwaetha'r heriau hyn, mae eu gwydnwch a’u brwdfrydedd wedi disgleirio, gan eu gwneud yn rhan hanfodol o dîm nyrsio Felindre.

Drwy gydol y flwyddyn, mae'r nyrsys hyn wedi bod yn eithriadol eu proffesiynoldeb, eu tosturi a'u gallu i addasu. O feistroli protocolau’r GIG i feithrin perthnasoedd cryf â chydweithwyr a chleifion, maen nhw wedi integreiddio’n dda ac wedi cyfoethogi’r sefydliad â’u harbenigedd a’u profiadau amrywiol.

Yr effaith ar ofal cleifion

Mae cyfraniad nyrsys sydd wedi'u haddysgu'n rhyngwladol wedi bod yn allweddol wrth fynd i'r afael â phrinder nyrsys, gan sicrhau bod gofal cleifion yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Maen nhw wedi cryfhau ein timau gofal iechyd, gwella diogelwch cleifion, a gwella ansawdd cyffredinol y gofal. Mae cleifion a chydweithwyr wedi elwa o’u cymhwysedd diwylliannol a’u sgiliau amlieithog, sy’n helpu i greu amgylchedd gofal iechyd mwy cynhwysol, llawn cydymdeimlad.

Cefnogaeth a datblygiad

Gan gydnabod yr heriau unigryw sy'n wynebu'r nyrsys hyn, mae'r Ymddiriedolaeth wedi blaenoriaethu systemau cymorth i'w helpu gyda'r newid. O raglen sefydlu strwythuredig gadarn, paratoi ar gyfer prawf OSCE, mentora i gyfleoedd datblyguproffesiynol parhaus, mae'r Ymddiriedolaeth yn parhau i ymrwymo i helpu'r nyrsys hyn i aros ac i ffynnu yn eu gyrfaoedd yn GIG Cymru.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi bod yn dyst i'r grym sy'n deillio o weithio mewn tîm. Mae’r tîm nyrsio cyfan ar draws Gwasanaeth Canser Felindre, gyda chefnogaeth Hannah Churchill a’r Tîm Addysg Nyrsio, a Sarah Thomas a charfan ehangach y Tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol, wedi cydweithio i greu amgylchedd croesawgar a chefnogol ar gyfer ein nyrsys. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchu'r ysbryd cydweithredol ac yn dangos gwerthoedd ein Hymddiriedolaeth ar waith.

Edrych tua'r dyfodol

Wrth i ni ddathlu'r garreg filltir hon, rydym hefyd yn edrych ymlaen yn optimistaidd. Mae'r gwersi a ddysgwyd a llwyddiant ein nyrsys yn creu cyfle i ni recriwtio ac integreiddio gweithwyr proffesiynol medrus o bob rhan o'r byd. Megis dechrau mae eu taith yn GIG Cymru, ac rydym yn parhau i ymrwymo i gefnogi eu twf a’u cyfraniad am flynyddoedd i ddod.

"Roedd recriwtio nyrsys yn Kerala ym mis Tachwedd 2023 yn fraint i mi yn broffesiynol ac yn bersonol ac yn brofiad newydd sbon i Felindre. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol i'r holl dîm nyrsio, ein gwasanaeth ac i'n cleifion a'u teulu. Mae'r nyrsys yn rhan annatod o'n gweithlu, gan helpu i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel. Hoffwn ddathlu blwyddyn ers iddynt ymuno ar Ddiwrnod Diolch i Weithwyr GIG Cymru o Dramor a'u diolch am ddewis byw a gweithio yng Nghymru.

Viv Cooper  
Pennaeth Nyrsio, Ansawdd, Profiad Cleifion a Gofal Integredig