Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu radiograffydd am ei chyfraniadau i ofal canser wrth iddi ymddeol

Dr Jane Mathlin is smiling in a garden at Velindre Cancer Centre.

15 Mai 2024

Mae radiograffydd arloesol a ymddeolodd yr wythnos diwethaf ar ôl bron 40 mlynedd yng Nghanolfan Ganser Felindre yn cael ei dathlu gan gydweithwyr fel 'arweinydd ysbrydoledig'.

Ymhlith ei chyraeddiadau yn ystod gyrfa anhygoel, Dr Jane Mathlin oedd y radiograffydd ymgynghorol cyntaf yng Nghymru ac un o'r presgripsiynwyr anfeddygol cyntaf.

Cafodd gwasanaethau arbenigol Canolfan Ganser Felindre fwy na 9,000 o atgyfeiriadau am gleifion newydd yn 2023 yn unig. Mae llawer o'r cleifion hyn wedi elwa ar wasanaethau ymbelydredd ac mae staff wedi canmol Jane fel esiampl dda o ran datblygu rolau radiograffwyr.

Daeth cydweithwyr at ei gilydd i ddymuno'n dda i Jane wrth iddi ymddeol a rhannwyd nifer o deyrngedau diffuant iddi.

“Mae dy arweinyddiaeth wedi trawsnewid y Clinig Adolygu i’r tîm y mae heddiw, sef tîm rhagorol. Rwyt ti wedi bod yn fodel rôl ac yn ysbrydoliaeth, ac yn frwdfrydig dros sbarduno'r proffesiwn radiograffeg. Roeddet ti'n fwy na rheolwr, roeddet ti'n credu ynom ni, yn ein hannog ni, ac yn rhoi grym i ni gyflawni'r pethau hyn. Mae eich cred ym mhotensial ein tîm wedi ysgogi ein llwyddiant ac wedi creu'r gweithwyr proffesiynol rydyn ni heddiw, a byddwn ni'n ddiolchgar am byth i ti.”

“Mae dy ymroddiad i'r rôl a'r gofal rwyt ti'n ei ddangos i gleifion wedi bod yn ysbrydoledig ac rwyt ti wedi datblygu'r Clinig Adolygu i beth sydd gennym ni heddiw. Rwyt ti wedi cyflawni cymaint ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynifer o bobl, cleifion a'r staff."

"Rwy'n ddiolchgar iawn am dy holl gefnogaeth i mi dros y 25(!) mlynedd diwethaf. Mae dy arweiniad a mentora wedi bod yn ffactor allweddol yn fy nhwf proffesiynol ac wedi helpu i ddatblygu fy ngyrfa. Rwyt ti bob amser wedi bod yn fodlon gwrando, fel cydweithiwr a fel ffrind, ac rydyn ni wedi chwerthin llawer a hyd yn oed crio tipyn bach hefyd dros y blynyddoedd. Bydda i'n gweld eisiau gweithio gyda ti ac yn gobeithio y bydd dy ymddeoliad mor werth chweil a llwyddiannus â dy yrfa. Diolch am bopeth!”

Cymhwysodd Jane fel Radiograffydd Therapiwtig ym 1984 ar ôl gwneud ei hyfforddiant yng Nghanolfan Ganser Felindre. Aeth ymlaen i ddatblygu ei gyrfa trwy weithio yn Hammersmith, St Thomas a Choleg Prifysgol Llundain.

Ar ôl dychwelyd i Ganolfan Ganser Felindre ym 1991, datblygodd Jane rôl y Radiograffydd Clinig Adolygu Radiotherapi yn gyflym a threuliodd sawl blwyddyn yn tyfu'r gwasanaeth i beth y mae heddiw.

Dechreuodd Jane ei PhD mewn ymarfer Gofal Iechyd Uwch yn 2014 a chafodd ei phenodi’n Radiograffydd Therapiwtig Practis Ymgynghorol cyntaf yng Nghymru yn 2018.

Yn aelod craidd o'r Grŵp y DU ar gyfer Rheoli’r Geg yn ystod Canser, roedd gan Jane ran annatod hefyd ym mhroses Presgripsiynwyr Annibynnol o ddod yn Radiograffwyr Therapiwtig.

Yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre rydym yn ymdrechu’n barhaus i ddatblygu ein gwasanaethau a’n staff er mwyn darparu’r safonau gorau o ofal a chyfleoedd boddhaus yng ngyrfa pobl. Gallwn ddarparu cyfleoedd mewn amrywiaeth eang o rolau clinigol ac anghlinigol.

Os hoffech chi wybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i weithio i'r Ymddiriedolaeth, ewch i'r dudalen hon.