Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gan y Cyfarwyddwr Dros Dro a'r Cyfarwyddwr Clinigol

Wrth i ni adfer o effeithiau'r pandemig COVID mae llawer mwy o gleifion canser yn cael eu trin. Ond ry'n yn ymwybodol fod cleifion yn gorfod aros yn hirach na'r arfer i ddechrau triniaeth cemotherapi a radiotherapi.

Gallwch fod yn sicr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i drin pawb cyn gynted â phosibl, gan gynnwys rhoi triniaethau ar ddydd Sadwrn. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn y bwrdd iechyd i fonitro'r sefyllfa a chynllunio o flaen llaw.

Rydym yn deall y gallech fod yn bryderus am hyn a bod gennych gwestiynau yr hoffech eu gofyn i ni.  Rydym wedi sefydlu llinell ffôn benodol i helpu gyda hyn. Cysylltwch â 029 20196844 VCC.TreatmentQueries@wales.nhs.uk a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ateb eich cwestiynau.

Rydym yn ddiolchgar am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.

Rachel Hennessy, Cyfarwyddwr Dros Dro
Eve Gallop-Evans, Cyfarwyddwr Clinigol