Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf

Diwedd ar deithiau hir i gleifion diolch i wasanaeth newydd Felindre

Mae Gwasanaeth Canser Felindre wedi dechrau gwasanaeth newydd yr wythnos hon ar gyfer cleifion sydd â thiwmorau niwroendocrinaidd, gan gynnig triniaeth leol gyda dull arbenigol o therapi radionewclid penodol.

Ffarwel Cynnes i Donna a Stephen

Ar 31 Gorffennaf, rydym yn ffarwelio’n annwyl â’n Cadeirydd, yr Athro Donna Mead OBE, a’n His-gadeirydd, Stephen Harries. Mae eu hymroddiad i wella gwasanaeth cyhoeddus wedi gadael marc annileadwy ar Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Cleifion cyntaf yn cael eu trin yn Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall

Rydym wrth ein bodd yn gallu rhannu bod Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall ar agor ac yn weithredol o fis Mehefin 2025 ymlaen - gan ein helpu i wneud gofal canser o ansawdd uchel yn fwy hygyrch i Dde-ddwyrain Cymru.

Menyw yn gwenu tua
Menyw yn gwenu tua
Sara Moseley yn ymgymryd â rôl y cadeirydd yn ddiweddarach eleni

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi heddiw y bydd Sara Moseley yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar 1 Medi 2025.

Croesawodd tîm Fferyllfa VCC gydweithwyr Clatterbridge

Yr wythnos diwethaf, cafodd tîm Fferyllfa Canolfan Ganser Felindre y pleser o groesawu cydweithwyr o Fferyllfa Canolfan Ganser Clatterbridge am ddiwrnod o arloesedd, mewnwelediad a chyfnewid proffesiynol.

Siarter Teithio Iach wedi'i Llofnod ar Wythnos Fawr Werdd

Yr wythnos hon, llofnododd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre y Siarter Teithio Iach - menter gan Deithio Iach Cymru i ddangos ymrwymiad i gefnogi cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus, a defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn.

Enwebwch rywun ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl 2025!

Rydym yn galw arnoch i'n helpu i roi sbotolau ar lwyddiant drwy enwebu ein staff ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl.