Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf

Cylch cyflawn yn Felindre wrth i'r claf cyntaf yng Nghymru gael triniaeth newydd ar gyfer canser y fron

Gwen Buchan, preswylydd o'r Barri, yw'r person cyntaf yng Nghymru i dderbyn triniaeth canser y fron newydd a ddechreuodd fel syniad ac yna treialon clinigol yng Ngwasanaeth Canser Felindre 10 mlynedd yn ôl.

Newidiadau yn eich profion gwaed yn Felindre

Os yw eich profion gwaed yn cael eu cymryd yng Nghanolfan Canser Felindre yn rhan o'ch triniaeth cemotherapi, bydd newid bach o ran pryd bydd hyn yn digwydd. Bydd hyn yn effeithio ar rai o'n cleifion.

Comisiynu wedi'i gwblhau ar gyfer Peiriannau Linac Ethos yn Felindre @ Nevill Hall

Mae tîm Ffiseg Radiotherapi Felindre wedi cwblhau comisiynu'r efelychydd CT radiotherapi arbenigol a'r systemau CT Cone Beam Hypersight (CBCT) yn Uned Radiotherapi newydd sbon Felindre @ Nevill Hall.

Cydweithio er llwyddiant ar Ddiwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol

Cydweithio yw’r hanfod ar gyfer llwyddiant unrhyw dreial clinigol, ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Treialon Clinigol ar 20 Mai 2025, rhown sylw i’r ffordd rydym yn gweithio i gyflawni’r treialon clinigol arloesol y mae Felindre’n enwog amdanynt.

Fideo animeiddiad newydd yn addysgu cleifion ar imiwnotherapi atalydd rheolfa

Mae Gwasanaeth Canser Felindre wedi lansio fideo animeiddiad newydd i addysgu cleifion sy’n cael eu trin ag imiwnotherapi atalydd rheolfa.

Canolfan Niwro-oncoleg De Cymru yn ennill statws nodedig Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell

Dyfernir yr achrediad arobryn hwn i ganolfannau ledled y DU sydd wedi bodloni neu ragori ar safonau o ran y driniaeth, y gofal a’r ymchwil maent yn eu darparu i gleifion sydd â thiwmor yr ymennydd. Daw hyn wedi proses adolygu drylwyr dan arweiniad pwyllgor o arbenigwyr yn y GIG a chleifion.

Dathlu Cydweithio yn y Gynhadledd Glinigol a Gwyddonol gyntaf

Mae'n braf gennym rannu llwyddiant ein Cynhadledd 'Gweithio Gyda'n Gilydd' Glinigol a Gwyddonol gyntaf, a gynhaliwyd yng Ngerddi Sophia ddydd Llun 12 Mai.

Lansiad Arddangosfa Gelf Gyntaf Felindre!

Ddydd Mawrth 6 Mai, roeddem wrth ein bodd yn lansio arddangosfa gelf gyntaf Felindre gan y claf Viv Leach, o'r enw 'It's a Wonderful Still Life'.