Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Cyrchfan 2033

9 Tachwedd 2023

Mae cynllun strategol newydd a fydd yn helpu Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ddarparu gofal rhagorol, addysg ysbrydoledig a phobl iachach wedi ei lansio heddiw.

Mae ‘Cyrchfan 2033’ yn manylu ar yr hyn mae’r Ymddiriedolaeth yn bwriadu ei gyflawni erbyn y flwyddyn 2033, yn ogystal â sut y bydd yn mynd ati i gyrraedd y nodau hyn.

Mae’r strategaeth yn seiliedig ar ddiben a gweledigaeth newydd i’r Ymddiriedolaeth.

 

 

Yn sail i’r strategaeth y mae pum nod strategol, sef y bydd yr Ymddiriedolaeth:

  • Yn eithriadol o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad
  • Yn ddarparwr o fri rhyngwladol o wasanaethau clinigol eithriadol sydd bob amser yn bodloni disgwyliadau ac yn rhagori arnynt
  • Yn sefydliad disglair ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi yn ein meysydd blaenoriaeth
  • Yn Ymddiriedolaeth Prifysgol sefydledig sy’n darparu gwybodaeth a dysg werthfawr iawn i bawb
  • Yn sefydliad cynaliadwy sy’n chwarae ei ran i greu dyfodol gwell i bobl ledled y byd

 

 

 

Yn ogystal â’r nodau strategol, mae’r strategaeth yn manylu ar y ffordd rydym yn anelu i fod yn gyflogwr o ddewis, cysylltu pobl yn ddigidol er mwyn creu gwell gwasanaethau a manteision ehangach, creu mwy o werth o’n hadnoddau, darparu mannau gwych i bobl ymweld â nhw a gweithio ynddynt, a buddsoddi’n gall er mwyn creu’r gwerth gorau.

I’n helpu i gyrraedd y nod hwn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi lansio pedair is-strategaeth hefyd sy’n gysylltiedig â meysydd allweddol, sef Digidol a Data, Ystadau, Cynaliadwyedd a Phobl.

 

Mae’r holl wybodaeth ar Hafan Cyrchfan 2033 a chewch ddarllen y strategaeth ei hun isod.