31 Mai 2025
Gwen Buchan o'r Barri yw'r person cyntaf yng Nghymru i gael triniaeth newydd ar gyfer canser y fron a ddechreuodd fel syniad yna treialon clinigol yng Ngwasanaeth Canser Felindre ddeng mlynedd yn ôl.
Meddai Gwen wrth siarad ar ddiwrnod ei thriniaeth gyntaf: “Ces i ddiagnosis o ganser y fron yn 2008 a ches i'r holl driniaeth – cemotherapi, radiotherapi a thriniaeth hormonau. Dwi wedi cael 16 mlynedd da ers hynny ac rwy'n ddiolchgar iawn amdanyn nhw gan fy mod i'n nabod llawer o bobl sydd heb gael hynny.
Ym mis Ebrill diwethaf, ces i ddiagnosis o ganser eilaidd y fron ac yn ddiweddar mae fy mhrif fath o driniaeth wedi rhoi'r gorau i weithio, ac mae hynny'n dorcalonnus. Dyma lle mae'r cyffur newydd dod i sylw. Soniodd fy oncolegydd fod triniaeth newydd ar gael yn fuan ac os oedd mwtaniad penodol gen i, ac mae gen i hwnnw, bydd modd i mi gael y driniaeth. Roedd hynny'n syndod mawr!"
Cafodd triniaeth newydd Gwen ei chymeradwyo'n ddiweddar i'w defnyddio yn y GIG yng Nghymru ar ôl 10 mlynedd o waith datblygu a threialon clinigol a ddechreuodd yn Felindre ar ffurf treial FAKTION.
Mae'r driniaeth yn cyfuno therapi hormonau ag atalydd AKT o'r enw capivasertib, ac mae Asiantaeth Gyffuriau Ffederal yr Unol Daleithiau (FDA), a'r mis diwethaf y Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) y DU, wedi ei chymeradwyo. Mae'r driniaeth benodol newydd hon wedi'i chynllunio i leihau faint mae canser y fron datblygedig yn tyfu ac yn lledaenu, gan roi mwy o amser a gwell ansawdd bywyd i gleifion.
Yr Athro Rob Jones, sy'n Ymgynghorydd mewn Oncoleg Feddygol ac yn Gyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn Felindre, oedd y Prif Ymchwilydd ar dreial FAKTION.
“Mae hwn yn gyrhaeddiad mawr i Gaerdydd gan fod y treial wedi cael ei ddatblygu gan Felindre, ei noddi gan Felindre a’i gyflwyno mewn cydweithrediad â Chanolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd.
“Mae’n braf iawn gweld y broses yn creu cylch cyflawn, gweld y driniaeth bellach ar gael fel gofal safonol i lawer iawn o gleifion canser y fron yng Nghymru.
“Bydd y driniaeth hon yn rhoi amser i gleifion gyda’u teuluoedd ac amser i fwynhau eu bywyd, ac mae hynny’n gyrhaeddiad enfawr.”
Dr Simon Waters yw oncolegydd Gwen, ac roedd yn rhan o dreialon cynnar y driniaeth hon yn Felindre.
“Erbyn hyn, mae opsiwn arall gennym i’n cleifion: un sydd wedi dangos ei fod yn effeithiol wrth drin math penodol o ganser metastatig y fron.
“Mae'n braf iawn gallu cynnig y driniaeth hon i Gwen, sef y claf cyntaf yng Nghymru i’w gael.
“Mae ymchwil yn hanfodol er mwyn symud triniaethau canser ymlaen ac rwy’n falch o’r rhan i mi ei chwarae i wrth sicrhau bod y driniaeth newydd hon ar gael i bobl Cymru a ledled y byd.”
Dyma Gwen, sy'n gyn-athrawes gelf, yn myfyrio ar beth mae'r driniaeth newydd hon yn ei olygu iddi.
“Heb ragoriaeth glinigol arloesol y timau oncoleg yn Felindre a’r gefnogaeth iddyn nhw gan Lywodraeth Cymru, byddai pobl debyg i mi'n wynebu canlyniadau llawer mwy difrifol.
"Diolch i ymroddiad y clinigwyr, eu hymchwil a'u treialon parhaus, gall pobl fel fi sydd wedi cael diagnosis o ganser cynradd neu eilaidd gael dyfodol o'n blaenau a gallwn ni gael gobaith.
"Pe bai hyn wedi digwydd y llynedd, fyddai'r driniaeth hon ddim ar gael. Ond mae ei hangen arna i nawr ac mae hi ar gael nawr a gobeithio ei bod yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fy rhagolygon.
"Rydw i wir yn ffodus gan fod y gŵr, y plant a'u partneriaid mwyaf cefnogol wrth law, yn ogystal â theulu estynedig yn yr Alban a Chymru, ffrindiau gwych, ac rwy'n gallu mynegi fy nghreadigrwydd gyda serameg sy'n angerdd enfawr i mi.
"Mae'r driniaeth newydd hon yn caniatáu i mi weld fy mab ieuengaf yn priodi'r flwyddyn nesaf, creu'r potiau ar gyfer ei briodas ac yna pwy a ŵyr beth arall gallwn i fyw i'w weld.
"Ond heddiw, rwy'n canolbwyntio ar heddiw. Nid marw o ganser sydd ar fy meddwl ond byw gyda chanser a byw'n dda, a dyna pam rwy'n canolbwyntio ar bob dydd ac mae heddiw yn ddiwrnod da!"
Mae Elusen Canser Felindre yn gefnogwr pwysig i ymchwil yn Felindre. Meddai ei chyfarwyddwr, Paul Wilkins,
“Mae llwyddiant FAKTION yn adlewyrchu’n berffaith y genhadaeth sydd wrth wraidd ein helusen. Rydyn ni'n hynod falch o fod wedi helpu i ariannu’r driniaeth hon fydd yn newid bywyd ac o’i gweld yn dwyn budd i gleifion yma yn Felindre.
“Llongyfarchiadau i’r tîm rhagorol y tu ôl i’r datblygiad arloesol hwn. Mae hi wedi bod yn daith ysbrydoledig i'w dilyn, a hyd yn oed yn fwy cyffrous i’w gweld yn dod yn ôl i’n gwasanaeth ni fel cylch cyflawn.”