11 Gorffennaf 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi heddiw y bydd Sara Moseley yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar 1 Medi 2025.
A hithau'n Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, roedd Sara yn Gyfarwyddwr ar Mind Cymru, yn Gyfarwyddwr Gweithredol ar Mind ac yn Brif Swyddog Gweithredol ar Menter Canser Moondance.
Mae cefndir Sara, sy'n siaradwr Cymraeg rhugl, ym meysydd cyfathrebu, ymgysylltu â'r cyhoedd a llywodraethu. Roedd yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu i Lywodraeth Cymru ac i ymddiriedolaeth iechyd fawr yn Llundain, ac yn Gyfarwyddwr Bwrdd a Chymorth Corfforaethol i asiantaeth ddatblygu ranbarthol.
Mae'n angerddol am alluogi i leisiau a phrofiadau pobl gael eu clywed a'u rhannu, ac am wella mynediad at wasanaethau a chymorth trugarog ac effeithiol.
Edrychwn ymlaen at groesawu Sarah i'r sefydliad yn ddiweddarach eleni.