13 Medi 2024
Mae’n braf gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre gyhoeddi fod Mr David Donegan wedi ei benodi’n Brif Weithredwr parhaol newydd.
Ar hyn o bryd, David yw Prif Weithredwr Cork University Hospitals Group (CUH Group), sy’n cynnwys yr ysbyty addysgu trydyddol mwyaf yn system iechyd Iwerddon, nifer o ysbytai cyffredinol dosbarth ac ystod o glinigau a chyfleusterau cymunedol. Mae David wedi llwyddo i gyflawni gwell perfformiad, seilwaith, llywodraethiant ac arweinyddiaeth yn CUH Group, a hynny’n glinigol ac yn weithredol. Mae hefyd wedi arwain y gwaith o gyflawni nifer o raglenni cenedlaethol yn ne-orllewin Iwerddon, gan gynnwys y strategaeth trawma genedlaethol a’r rhaglen rheoli canser genedlaethol.
Er yn wreiddiol o Iwerddon, mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn y GIG, gan gynnwys dros ddegawd mewn rolau ar lefel bwrdd mewn awdurdodau iechyd strategol, ysbytai acíwt a gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr. Mae hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Dros Dro ar Ofal Eilaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Nghymru.
Ac yntau’n glinigydd o ran ei gefndir, mae David yn hynod o frwdfrydig dros arweinyddiaeth glinigol ac ymarfer pellach. Mae ganddo sawl gradd, gan gynnwys MBA Gweithredol o Ysgol Fusnes Warwick, ac mae’n raddedig o Academi Arweinyddiaeth y GIG a Rhaglen Uwch-arweinwyr UCL.
Mae David yn briod â Nuala, sy’n Gyfarwyddwr ar Kantar Worldpanel.
Meddai Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Yr Athro Donna Mead OBE “Rydyn ni’n hapus iawn fod David wedi cytuno i ymuno â ni yn Felindre, ar ôl proses recriwtio gadarn a thra chystadleuol. Mae ganddo frwdfrydedd ac uchelgais dros Felindre a fydd yn dwyn budd i ni ar gyfer y dyfodol ac mae’n uniaethu’n gryf â’n cenhadaeth o gyflawni gwaith clinigol ac academaidd o safon fyd-eang. Daw David â phrofiad rhyngwladol hynod o berthnasol i’r Ymddiriedolaeth mewn gwasanaethau gwaed a chanser.”
Meddai David Donegan, “Braint yw cael fy newis i arwain y tîm yn Felindre ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi ein tîm i gyrraedd ei botensial llawn ac i gyflawni ein cydweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Pan es i ymweld â Gwasanaeth Gwaed Cymru’n ddiweddar, fe wnaeth y croeso cynnes fy atgoffa o fy arddegau pan oeddwn i’n gweithio fel gwirfoddolwr gyda’r Groes Goch yn helpu rhoddwyr a’r staff gyda’r casgliadau. Pan es i ymweld â Chanolfan Ganser Felindre a gweld y dyluniadau ar gyfer y ganolfan newydd, cefais ymdeimlad go iawn o’r canlyniadau pwysig y byddwn ni’n eu sicrhau i bobl de ddwyrain Cymru dros y 5-10 mlynedd nesaf. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â staff, rhoddwyr, cleifion a phartneriaid dros y misoedd nesaf.”
Mae David yn gobeithio ymuno â’r Ymddiriedolaeth erbyn dechrau Rhagfyr.