15 Ebrill 2025
Mae Gwasanaeth Canser Felindre yn falch o ddarparu radiotherapi heb ddefnyddio tatŵs i nifer sylweddol o gleifion canser y fron, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i wella profiad cleifion a datblygu technegau triniaeth.
Ers 10 Chwefror 2025, mae cleifion cymwys yn gallu cael radiotherapi heb fod angen marciau parhaol ar y croen, a hynny diolch i weithredu Radiotherapi Arweiniad Arwyneb (SGRT). Mae'r dechnoleg flaengar hon yn sicrhau bod y driniaeth yn fanwl gywir ac yn effeithiol, ac yn golygu nad oes angen marciau tatŵ traddodiadol mwyach.
Yn hanesyddol, defnyddiwyd tatŵs parhaol bach i osod cleifion yn y man cywir ar gyfer radiotherapi. Erbyn hyn, mae SGRT yn golygu bod modd:
Meddai Dr Catherine Pembroke, sy'n Oncolegydd Ymgynghorol Clinigol y Fron yng Ngwasanaeth Canser Felindre: “Yn aml, mae tatŵs yn sgil radiotherapi'n atgof parhaol bob dydd o hanes claf gyda chanser y fron. Mae rhoi'r gorau i ddefnyddio tatŵs yn gallu cael effaith enfawr ar les y grŵp hwn o gleifion yn y dyfodol.”
Mae'n bosib y bydd angen tatŵs ar ambell glaf o hyd er mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth ddewis y peiriant triniaeth mwyaf priodol a sicrhau'r cynllun triniaeth gorau posibl.
Fodd bynnag, wrth i'r defnydd o SGRT ehangu, rydym yn rhagweld y bydd mwy o gleifion yn elwa o'r dull arloesol hwn yn y dyfodol.
Cyflawnwyd y datblygiad hwn trwy dîm amlddisgyblaethol o oncolegwyr clinigol arbenigol, radiograffwyr, a ffisegwyr meddygol. Mae hwn yn gam sylweddol tuag at ofal canser sy'n canolbwyntio mwy ar y claf wrth symleiddio llifoedd gwaith triniaeth.