Neidio i'r prif gynnwy

Cyfle i gleifion ac aelodau o'r teulu helpu i wella ein gwasanaethau

1 October 2024

Hoffai Academi Oncoleg Felindre weithio gyda grŵp bach o gleifion a/neu aelodau o'r teulu i ddatblygu cyfres o hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghylch cyfathrebu!

Rydym am ddeall yn well eich profiad o sut y cyfathrebwyd â chi trwy lythyr, galwad ffôn, mewn apwyntiadau clinig neu'r cyfathrebiad cyffredinol a gawsoch yn ystod eich amser gyda gwasanaethau Felindre. Trwy ddeall eich profiadau yn well, boed yn dda neu'n ddrwg, ynghyd â'r hyn sy'n bwysig i chi, gallwn ddylunio cwrs addysgiadol a dylanwadol a all wella sgiliau cyfathrebu ein staff yn uniongyrchol.

Rydym yn cynnal trafodaeth fach, anffurfiol yn Felindre ar gyfer cleifion neu aelodau o’r teulu sy’n teimlo y gallant gynnig arweiniad a rhanny eu profiadau o gyfathrebu. Ymunwch gyda ni:

📅 22fed Hydref 2024
⏰ 9-11yb
📍 Canolfan Ganser Felindre

I gadw lle ar gyfer chi neu aelod o’r teulu yn y trafodaeth anfonwch e-bost at: Velindre.engagementhub@Wales.nhs.uk