Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Atebolrwydd Cyhoeddus y Gweinidog gydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

18 Chwefror 2026

Ar 15 Ionawr, bu aelodau o Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre'n rhan o Gyfarfod Atebolrwydd Cyhoeddus Llywodraeth Cymru i drafod perfformiad yr Ymddiriedolaeth.

Un mewn cyfres o gyfarfodydd fu hwn a gynhaliwyd gyda holl sefydliadau’r GIG ledled Cymru, ac roedd yn gyfle gwerthfawr i ni, fel Ymddiriedolaeth, roi cyfrif o'n gwaith mewn modd agored a thryloyw.

Diben y cyfarfod oedd rhoi sicrwydd ar agweddau allweddol ar ein gwaith – o wasanaethau canser a Gwasanaeth Gwaed Cymru, i'r gwaith o ddatblygu ein canolfan ganser newydd a'n harweinyddiaeth a'n llywodraethiant ehangach ar draws y sefydliad. Gofynnwyd i ni arddangos nid yn unig yr hyn sy'n mynd yn dda, ond hefyd sut rydym yn ymateb lle mae angen gwelliannau pellach.

Cafwyd cyfle i adrodd ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn eleni, y ffordd rydym yn mynd i'r afael â heriau a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cymerwch amser i wylio'r cyfarfod. Mae'n rhoi darlun clir o'n sefyllfa fel Ymddiriedolaeth, yr hyder sydd gennym yn ein cynlluniau, a'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.