Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024

18 Medi 2024

Rhoddir rhybudd drwy hyn y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei gynnal ddydd Iau 26 Medi 2024 am 5:30pm ym Mhencadlys Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Uned 2 Cwrt Charnwood, Heol Bilingsley, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QZ.

Mae’n bleser gennym roi gwybod ein bod ni hefyd yn darlledu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 26 Medi 2024, gan roi’r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd i arsylwi mewn amser real. Byddwn yn cynnal ein cyfarfod drwy Ddigwyddiad Byw ar Zoom – gellir cael mynediad i’r cyfarfod trwy ddolen a fydd yn cael ei chyhoeddi drwy gyswllt. Cofrestrwch eich lle nawr.

Yn unol â'n hymrwymiad tuag at ddatblygu cynaliadwy, rydym wedi penderfynu argraffu copïau trwy gais yn unig. Gallwch gael copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol ar wefan yr Ymddiriedolaeth.

Os oes angen copi caled arnoch o'r adroddiadau neu'r agenda a phapurau ategol mewn fformat arall, fel sain, print bras neu Braille, cysylltwch â ni drwy’r cyfeiriad isod:

Cyfeiriad: Uned 2 Cwrt Charnwood, Heol Billingsley, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QZ
E-bost: Corporate.Services2@wales.nhs.uk
Ffôn: 02920 196161

Gallwch gyflwyno cwestiynau sy'n ymwneud â'r cyfnod adrodd 01 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023 ar gyfer sesiwn holi ac ateb y Cyfarfod Cyffredinol blynyddol drwy anfon e-bost at:

  • Kyle.Page@wales.nhs.uk  

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn hapus i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg. Er mwyn i ni gynllunio ar gyfer anghenion cyfathrebu'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, anfonwch eich dewis iaith i ni ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn.

  • Anfonwch eich dewis iaith drwy e-bost i Kyle.Page@wales.nhs.uk  

Diolch.

Yr Athro Donna Mead OBE, Cadeirydd

 

AGENDA

1. CroesoCyfarfod Cyffredinol Blynddol 2023 - 2024  
     Yr Athro Donna Mead OBE, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth

2. Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
     Yr Athro Donna Mead OBE, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth

3. Dyletswyddau Ariannol
     Matthew Bunce, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid

4. Sylwadau Cau ac Edrych tua’r Dyfodol,
    Carl James, Prif Weithredwr Dros Dro

5. Trafodion Ffurfiol I Gau
    Yr Athro Donna Mead, OBE, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth