20 Mai 2025
Cydweithio yw’r hanfod ar gyfer llwyddiant unrhyw dreial clinigol, ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Treialon Clinigol ar 20 Mai 2025, rhown sylw i’r ffordd rydym yn gweithio i gyflawni’r treialon clinigol arloesol y mae Felindre’n enwog amdanynt.
Mae ein tîm yn y swyddfa ymchwil a datblygu’n gweithio i sefydlu treial ac ystyried a yw’r treial yn bosibl, yn ogystal ag archwilio protocolau, ansawdd a diogelwch. Unwaith i’r treial ddechrau, bydd swyddfa ymchwil a datblygu’n cipio data o’r treial, cyn monitro’r data hwnnw ac adrodd arno.
Ar draws Canolfan Ganser Felindre, mae ein timau’n dod â’r ymchwil yn fyw i gleifion. O nyrsys ymchwil, radiograffwyr ymchwil a’r staff ffiseg feddygol i fferyllwyr a chlinigwyr, mae pawb yn cyfrannu at y gwaith o ddarparu treialon clinigol a darparu’r gofal gorau i’n cleifion.
All treialon clinigol ddim digwydd heb gymorth y system iechyd ehangach, sy’n gweithio gyda rhwydwaith o arbenigeddau a chyllidwyr. Mae’r partneriaid hyn yn ein galluogi i gynnig amrywiaeth ehangach o ymchwil a chynnig triniaethau blaengar i’n cleifion.
Heb gleifion yn gwirfoddoli i gymryd rhan mewn treialon clinigol, fyddai gwyddor canser a thriniaeth ar ei gyfer ddim yn datblygu. Rydym yn ddiolchgar i’n cleifion sy’n ymrwymo i’r ymchwil fydd yn gwneud gwahaniaeth i gleifion y dyfodol.
Yn olaf, diolch arbennig i’r bobl sy’n rhoi arian i Elusen Ganser Felindre i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer treialon clinigol. Diolch am gadw Gwasanaeth Canser Felindre mor annwyl i chi ac am eich haelioni.
Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r treialon clinigol yng Ngwasanaeth Canser Felindre