3 Ionawr 2024
Mae codwr arian ar gyfer elusen Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2024.
Cyhoeddwyd bod Wayne Griffiths, a ddechreuodd godi arian am y tro cyntaf pan gafodd ei ddiweddar ferch Rhian ddiagnosis o ganser ceg y groth yn 2010, wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM).
Mae’r fedal BEM yn cael ei dyfarnu i'r rhai sydd wedi darparu gwasanaeth 'ymarferol' i'r gymuned leol, sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol. Yn achos Wayne, mae'n gyfrifol am godi dros £918,000 er cof am ei ferch Rhian.
Meddai Paul Wilkins, Cyfarwyddwr Elusen yn Felindre:
"Ar ran ein holl staff, gwirfoddolwyr, cleifion, eu teuluoedd a'r gymuned gyfan, rwy'n falch iawn o longyfarch Wayne ar ei gydnabyddiaeth haeddiannol iawn. Rydyn ni gyd wedi cael ein hysbrydoli gan y ffordd y mae wedi anrhydeddu cof Rhian ac wedi creu etifeddiaeth mor hirhoedlog a fydd yn sicr o fynd ymlaen i gyflawni hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar dros ben am y ffordd y mae Wayne wedi mynd y filltir ychwanegol i Felindre."
Ddwy flynedd ar ôl i Rhian gael ei diagnosio, bu farw yng Nghanolfan Ganser Felindre, lle cafodd y rhan fwyaf o'i thriniaeth, yn 25 oed. Sefydlodd y teulu gronfa yn enw Rhian, ac ymroddodd Wayne ei hun i helpu'r ysbyty a phobl eraill mewn sefyllfa debyg.
Mae Cronfa Forget Me Not Rhian Griffiths wedi cyfrannu at amrywiaeth eang o brosiectau, gan gynnwys rolau cyllido ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, adnewyddu'r ystafell deulu ar gyfer cleifion mewnol, rhaglenni cwnsela a therapi, ymchwil, a llawer mwy o weithgareddau mwy effeithiol.
Mae Wayne, sydd bellach yn Llysgennad ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, yn falch fod ei wyrion Hari a Mil yn cyfrannu fel Llysgenhadon Ifanc hefyd. Mae'r ymdrechion codi arian yn parhau wrth i'r teulu barhau i fod yn gwbl ymrwymedig i wneud gwahaniaeth, wrth iddynt agosáu at gyrraedd carreg filltir anhygoel o £1 miliwn.
I gael gwybod mwy am godi arian gyda Felindre, ewch i: www.velindrefundraising.com