Mae dau aelod o'r Ymddiriedolaeth wedi cael cydnabyddiaeth yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2025 am eu cyfraniadau anhygoel i wella gwasanaethau a rhagoriaeth.
Dyfarnwyd OBE i Lysgennad Elusen Canser Felindre, Craig Maxwell ,am ei ymrwymiad eithriadol i godi arian ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru.
Dechreuodd Craig weithio gyda'r elusen ar ôl cael diagnosis yn 2022 o gam 4 o ganser nad oes modd ei wella. Ers hynny, mae wedi sefydlu Maxwell Family Fund ac wedi codi dros £1.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru.
Mae taith Craig yn hynod o ryfeddol. O gwblhau heriau beicio anferth, gan gynnwys Caerdydd i Baris a Paris i Bordeaux, i ddringo Mynydd Toubkal ym Moroco, cerdded 780 o filltiroedd Llwybr Arfordir Cymru, rhedeg Marathon Llundain, a llawer mwy, mae Craig wedi dangos i bob un ohonom sut i droi rhywbeth negatif yn rhywbeth positif. Mae ei ymroddiad diwyro a’i ymdrechion rhagorol i helpu eraill er gwaethaf ei amgylchiadau personol wedi mynd gam ymhellach, gan wneud y gydnabyddiaeth ryfeddol hon yn deyrnged deilwng i’w amcan calonnog. Mae’n braf iawn gennym ddathlu'r anrhydedd haeddiannol hon gydag ef.
“Mae derbyn OBE yn anrhydedd anhygoel. Mae’r gefnogaeth i ni fel teulu wedi bod yn ysbrydoledig. Mae hi wedi ein helpu i ddelio â rhai o flynyddoedd mwyaf heriol ein bywyd ac wedi gwneud daioni o’r adegau tywyll. Gyda help cannoedd o bobl ymroddedig, rydyn ni wedi codi cronfeydd hanfodol gwerth £1.5 miliwn a mwy i gefnogi’r llwybr canser yng Nghymru.
Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y ffordd, a hoffem ni ddweud diolch o galon i’r meddygon, y nyrsys, a’r tîm cyfan yn Felindre. Mae eu gofal di-baid wedi fy nghadw i fynd ac wedi rhoi grym i ni barhau â’n hamcan.Er ei bod hi’n braf iawn cael y gydnabyddiaeth hon, mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Rydyn ni’n parhau i ymrwymo i gefnogi'r frwydr yn erbyn canser ac edrychwn ni ymlaen at gael effaith barhaol yn y blynyddoedd i ddod. Diolch unwaith eto i bawb sydd wedi ein helpu ar y daith hon.”
- Craig Maxwell OBE
Mae Lee Wong wedi derbyn MBE am ei gyrfa anhygoel yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ymestyn dros 43 mlynedd a mwy ar draws sawl rôl.
Dechreuodd Lee yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru ym 1980, pan ymunodd fel Swyddog Diogelwch Labordy Meddygol dan hyfforddiant, neu Wyddonydd Biofeddygol erbyn hyn. Cymhwysodd bedair blynedd yn ddiweddarach, ar ôl cylchdroi rhwng amryw adrannau yn labordai’r Gwasanaeth Gwaed, gan gynnwys y Labordy Cyffredinol (Profion Awtomataidd erbyn hyn), Microbioleg, Seroleg Gyfeirio (Imiwnohematoleg y Celloedd Coch erbyn hyn), Prosesu ac Adweithredyddion (sydd bellach wedi uno ag Adran Imiwnohematoleg y Celloedd Coch).
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, daeth Lee yn Uwch Swyddog Diogelwch Meddygol yn y Labordy Cyffredinol ar ôl ennill Cymrodoriaeth y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol. Yna cafodd ei henwi’n Brif Swyddog Diogelwch Meddygol, gan arwain y labordy adweithyddion, a sefydlu cynllun EQA WASPs, sy’n cael ei ddefnyddio o hyd heddiw. Ar ôl uno’r Adran Adweithredyddion Seroleg Cyfeirio a’r Adran Imiwnohematoleg, daeth Lee yn Brif Swyddog Diogelwch Meddygol a symudodd i rôl Rheolwr Hyfforddiant y Labordy.
Yn Arweinydd Tîm Cynghori Cenedlaethol ar Iechyd Gwaed, sef ei rôl olaf yma yn y Gwasanaeth Gwaed, arweiniodd Lee y gwaith o ffurfio Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol (BHNOG) yn 2017 i oruchwylio’r gwaith o weithredu Cynllun Iechyd Gwaed GIG Cymru a mentrau Cymru-gyfan eraill.
Ymddeolodd Lee ym mis Ebrill ond daeth yn ôl i’r gwasanaeth yn ddiweddar yn Brif Wyddonydd ar Brosiectau ac Addysg.
Mae MBE Lee yn cydnabod ei brwdfrydedd i fynd y tu hwnt i ddyletswydd ei rolau. Bu’n allweddol yn y gwaith o ymgorffori gogledd Cymru yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru yn 2016 a dileu dibyniaeth y rhanbarth ar NHS Blood and Transplant yn Lloegr am y tro cyntaf.
Yn gadeirydd ar Rwydwaith Trallwyso Gwaed y DU ac Iwerddon, roedd Lee yn eiriolwr brwd dros ddiogelwch cleifion, iechyd y boblogaeth a thegwch.
Arweiniodd Lee y gwaith o roi proses genedlaethol safonol ar waith i nodi a thrin anemia cyn llawdriniaeth, gan leihau cyfraddau trallwyso 52% ac arhosiadau yn yr ysbyty ddau ddiwrnod ar gyfartaledd, gan sicrhau bod system yma yng Nghymru ymhlith y gorau yn y byd.
Roedd hi'n ffigwr allweddol wrth ddatblygu cymwysterau NVQ i gynnig llwybr i staff cymorth i ddod yn Wyddonwyr Biofeddygol cymwysedig trwy astudio'n rhan-amser. Yn y rôl honno, enillodd Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig ar gyfer addysgu oedolion, yn ogystal â chymhwyster hyfforddi a mentora lefel 7. Trwy ei rolau, mae Lee wedi datblygu hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys parafeddygon, nyrsys a myfyrwyr meddygol sydd yn eu blwyddyn olaf.
"Mae’n braf iawn gennym glywed bod Lee wedi derbyn yr anrhydedd hon. Mae'n gydnabyddiaeth haeddiannol iawn am ei chyfraniad anhygoel i Wasanaeth Gwaed Cymru yn ystod ei gyrfa.
Mae Lee wedi bod ar flaen y gad o ran arfer arloesol yn Arweinydd y Tîm Cynghori Cenedlaethol ar Iechyd Gwaed, gan arwain mentrau ledled Cymru sydd wedi datblygu gwaith Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol yn aruthrol.
Mae Lee yn weithiwr proffesiynol gwych ac mae wedi sbarduno’r gwasanaeth mewn cyfnod heriol gydag egni a gwên.”
- Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru