Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i V-TV!

 19 Mehefin 2023

Mae Canolfan Ganser Felindre yn falch o lansio ei gwasanaeth teledu newydd sbon.

O ddydd Llun 19 Mehefin, bydd cleifion mewnol ar ward y llawr cyntaf yn gallu defnyddio Sianel Iechyd a Lles V-TV, sy’n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth i’w helpu tra byddan nhw’n aros yn y ganolfan.

Bydd y sgrin gyffwrdd yn esbonio pwy yw pwy ar y ward, yn cynnig cyfres o ymarferion corff ar y gwely ac ar y gadair, ac yn dangos neges groeso gan Shane Williams, un o noddwyr Felindre.

Bydd V-TV hefyd yn rhoi cyfle i gleifion mewnol roi adborth ar eu hamser yn y ganolfan trwy gymryd rhan mewn arolwg byr i’w gwblhau yn eu hamser eu hunain.

Meddai Kate Baker, Pennaeth Therapïau Macmillan yng Nghanolfan Ganser Felindre:

“Mae’n braf iawn gennym lansio peilot sianel iechyd a lles V-TV. Daeth y syniad amdani yn ystod y pandemig pan roeddem am roi gwybodaeth i gleifion allanol i’w gweld yn eu hamser eu hunain 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Yn ystod y peilot, rydym yn gobeithio casglu adborth gan gleifion er mwyn datblygu cam 2 o’r prosiect a datblygu ar yr wybodaeth sydd ar gael ar y sianel ar hyn o bryd.”

Mae V-TV wedi cael cymorth gwerth £15,000 gan Gymorth Canser Macmillan i ariannu’r prosiect drwy’r Grant Cymorth i Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.

Meddai Jonathan Long, Rheolwr Partneriaeth Cymorth Canser Macmillan:

"Mae Macmillan yn falch iawn o ariannu prosiect V-TV ar gyfer cleifion mewnol yng Nghanolfan Ganser Felindre fel bod modd iddynt gael gwybodaeth angenrheidiol saith diwrnod yr wythnos. Rydym yn falch o’n partneriaeth hir gyda Felindre, sy’n golygu bod pobl sy’n cael eu trin am ganser yn gallu manteisio ar weithwyr proffesiynol Macmillan, fel ein cynghorwyr ar fudd-daliadau lles, ein nyrsys a’n timau therapïau, yn y ganolfan diolch i’n rhoddwyr.”

Cam cyntaf y gwasanaeth fydd gosod un sgrin deledu ym mhen pellaf ward y llawr cyntaf ym Mae C am gyfnod prawf o dri mis.

Yn dilyn hyn, y nod fydd cyfoethogi profiad cleifion trwy gasglu rhagor o wybodaeth gan sefydliadau partner i’w rhoi ar y sianel i helpu cleifion tra byddan nhw’n aros yn y ganolfan.

Yn y dyfodol, y bwriad yw gosod V-TV ar gyfer rhagor o welyau ar draws Canolfan Ganser Felindre newydd a rhoi gwell cyfle i gleifion gael gwybodaeth ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw.