10 Gorffennaf 2025
Yr wythnos diwethaf, cafodd tîm Fferyllfa Canolfan Ganser Felindre y pleser o groesawu cydweithwyr o Fferyllfa Canolfan Ganser Clatterbridge am ddiwrnod o arloesedd, mewnwelediad a chyfnewid proffesiynol.
Cafodd yr ymweliad ei sbarduno gan y diddordeb cynyddol mewn rolau Technegydd Fferyllfa Uwch VCS - diddordeb a daniwyd yn rhannol gan gyflwyniadau mewn cynhadledd genedlaethol gan Emma Williams (VAP) a Sarah Goman (Addysg Meddyginiaethau Cleifion) o Felindre, a arddangosodd y gwaith arloesol sy'n cael ei arwain gan ein tîm technegwyr.
Yn ymweld â ni o Clatterbridge oedd Sarah Craig, Fferyllydd Uwch ac Ymarferydd Athro ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, Carys Hooker, Prif Dechnegydd Fferyllfa, a Bridget Siju, Myfyriwr Fferyllfa. Eu nod: dysgu mwy am sut mae Felindre yn torri tir newydd wrth ehangu rôl y technegydd fferyllfa, yn enwedig mewn meysydd fel Dilysu Fferyllfa SACT ac asesiadau clinigol dan arweiniad technegwyr.
Yn dilyn taith o amgylch yr Adran Fferylliaeth, y ganolfan ganser ehangach, a chipolwg ar y dyfodol yng Nghanolfan Ganser Felindre (nVCC) newydd, rhoddodd ein Technegwyr Fferyllfa Uwch olwg fanwl ar ein gwasanaethau uwch ar waith. Cafodd tîm Clatterbridge y cyfle i arsylwi ac ymgysylltu â sut mae ein technegwyr yn cyflawni yn y gwasanaeth VAP, arwain ar addysg meddyginiaethau cleifion, a gwirio presgripsiynau SACT yn glinigol—gan arddangos rôl esblygol ac effeithiol technegwyr yn VCS.
Rydym yn hynod falch o'n tîm Technegwyr Fferyllfa am barhau i wthio ffiniau a gosod safonau newydd yn ymarferol. Nid yn unig y tynnodd yr ymweliad sylw at arweinyddiaeth VCS yn y maes hwn ond agorodd hefyd y drws ar gyfer cydweithio parhaus gyda'n cydweithwyr yng Nghanolfan Ganser Clatterbridge.
Edrychwn ymlaen at rannu syniadau, profiadau ac arloesiadau wrth i ni gydweithio i lunio dyfodol Fferyllfa Canser.