23 Mai 2025
Mae tîm Ffiseg Radiotherapi Felindre wedi cwblhau comisiynu'r efelychydd CT radiotherapi arbenigol a'r systemau CT Cone Beam Hypersight (CBCT) yn Uned Radiotherapi newydd sbon Felindre @ Nevill Hall.
Mae'r Hypersight CBCT yn system delweddu cleifion o'r radd flaenaf sydd wedi'i gosod ar y ddau gyflymydd llinol Ethos yn yr uned, a welir isod gyda rhai aelodau o'r tîm ehangach y mae eu hymdrechion ar y cyd wedi helpu i wireddu'r garreg filltir hon.
Mae'r datblygiad cyffrous hwn yn rhan allweddol o'n hymrwymiad i ddarparu triniaeth arloesol i gleifion ledled De-ddwyrain Cymru. Hoffem fynegi ein diolch i'r holl dîm a oedd yn rhan o'r broses gomisiynu hon am eu gwaith caled.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd ein timau'n parhau i baratoi'r uned i groesawu ein cleifion cyntaf ddechrau mis Mehefin.