Neidio i'r prif gynnwy

Codi arian drwy dyfu llysiau

22 Mehefin 2023

Mae dau o’n llysgenhadon ifanc wedi dod o hyd i ffordd greadigol o godi arian.

Cafodd Seren, 14, a Morgan, 12, o Dynewydd ger Treherbert, y syniad o greu’r fenter ‘Veggies for Velindre’ er mwyn helpu Elusen Canser Felindre.

Gyda chymorth eu rhieni, yn ogystal â’r gymuned leol, manteisiodd y ddau lysgennad ifanc ar lotment ger eu cartref a’i ddefnyddio i dyfu a gwerthu amrywiaeth o lysiau.

Bydd holl elw ‘Veggies for Velindre’ yn mynd at yr elusen ac yn benodol tuag at gyfer adnoddau’r plant.

Mae’r rhain yn cynnwys cyfres o lyfrau gan un o’n nyrsys a ‘bwystfilod gofidion’ y gall rhieni eu defnyddio i gael gwybod beth yn union sy’n poeni eu plant.

Meddai Beth, mam Seren a Morgan:

“Mae wedi bod yn waith caled ond yn waith gwerth chweil. Mae Felindre’n elusen anhygoel ac rydyn ni’n gobeithio bydd yr arian yn mynd ati ac yn helpu pobl i gael y pethau sydd eu hangen.”

Mae Seren a Morgan wedi ysbrydoli ysgolion lleol hefyd sy’n awyddus i ymuno â’r fenter. Mae eu hysgol uwchradd a’u hen ysgol gynradd wedi datblygu lotment eu hunain ac yn bwriadu tyfu eu llysiau eu hunain er budd Felindre.

Meddai Beth:

“Rydyn ni wedi cynnal cyflwyniadau mewn dwy ysgol leol sydd â diddordeb mawr mewn sefydlu is-ran o ‘Veggies for Velindre’.

“Mae’n wych achos mae’n annog y plant i gymryd rhan ac mae’n codi mwy o arian hollbwysig.”

Mae’r teulu wedi cael llawer o gymorth gan y gymuned leol, gan gynnwys cymorth i osod tarmac ar lwybrau’r lotment a rhoddion o hadau, compost a sied lle bydd y cynnyrch yn cael ei werthu.

Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar eu tudalen Facebook ac mae modd cyfrannu’n ariannol at yr achos ar eu tudalen JustGiving.