29 Medi 2023
Yr wythnos hon, cyrhaeddodd y Clinig Asesu Cleifion o Bell garreg filltir o gynnal 10,000 o asesiadau o gleifion cyn triniaeth.
Sefydlwyd y clinig yng Nghanolfan Ganser Felindre dair blynedd yn ôl yn rhannol i ymateb i bandemig COVID-19 pan nad oedd yn bosibl cynnal cynifer o apwyntiadau wyneb yn wyneb.
Mae hyn wedi arwain at 10,000 yn llai o apwyntiadau i gleifion allanol yn y clinig ers ei sefydlu yn ogystal â gwell capasiti yn yr Adran Cleifion Allanol ar gyfer cleifion mwy cymhleth, cleifion newydd a chleifion sy’n cael canlyniadau sgan.
Meddai Tej Quine, sy’n Uwch Ymarferydd Nyrsio yng Nghanolfan Ganser Felindre:
“Os bydd rhywun yn sâl neu’n cael canlyniadau sgan, bydd apwyntiad yng nghlinig yr ymgynghorwyr yn fwy priodol, ond os bydd yr apwyntiad i weld sut mae’r claf wedi bod ers y tro diwethaf iddynt gael triniaeth gwrth-ganser systemig (SACT) neu gemotherapi ac i wirio ei waed cyn ei driniaeth nesaf, bydd galwad ffôn gymaint yn fwy cyfleus i’r rhan fwyaf o gleifion. Mae asesu cleifion o bell yn golygu bod modd iddynt barhau â’u bywyd heb orfod mynd i’r clinig.”
Mae’r Clinig Asesu Cleifion o Bell, sydd dan arweiniad Nyrs-bresgripsiynwyr, yn asesu cleifion sy’n goddef triniaethau arferol, a hynny ddau ddiwrnod cyn pob triniaeth, sy’n golygu nad oes rhaid i gleifion ddod i'r safle.
Mae’r tîm yn cynnwys dwy Nyrs-bresgripsiynydd Annibynnol, Uwch Dechnegydd Fferylliaeth a Nyrsys Triniaeth Gwrth-ganser Systemig (SACT), ac mae pob un ohonynt yn gweithio yn yr Unedau SACT neu yn yr Adran Fferylliaeth yn Felindre ers blynyddoedd lawer. Gyda'i gilydd, mae ganddynt 100 mlynedd a mwy o brofiad ym maes SACT.
Cawsant eu cydnabod hefyd yn seremoni ddiweddaraf Gwobrau Canser Moondance, pan enillon nhw’r wobr yng nghategori Arloesi mewn Triniaeth ar y cyd â Grŵp Oncoleg Genomeg Cymru Gyfan.
Meddai Ruth Hull, sef un o’r Prif Nyrsys yng Nghanolfan Ganser Felindre:
“Mae ein cleifion yn gwybod y byddwn ni’n eu ffonio bob ail ddydd Mercher neu drydydd dydd Gwener yn y mis, yn dibynnu ar ba mor aml maen nhw’n cael triniaeth. Rydym hefyd yn ceisio sicrhau cysondeb o ran eu gofal gan wneud yn siŵr fod yr un aseswr yn eu galw pan fydd hynny'n bosibl. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn dod yn gyfarwydd â’u haseswr ac yn ei ystyried yn un o’u gweithwyr allweddol.”