Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion cyntaf yn y DU i gymryd rhan mewn astudiaeth BICCC

                             Athro Rob Jones                                                             Athro Andy Godkin

04 Rhagfyr 2024

Rydym yn falch iawn o fod wedi recriwtio’r claf cyntaf yn y DU i gymryd rhan yn y treial BICCC, sef treial clinigol newydd ar gyfer y colon a’r rhefr, sydd â’r nod o gynyddu cyfraddau goroesi heb glefyd.

Canser y colon a'r rhefr yw un o brif achosion marwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser ledled y byd. Yn ystod camau cynnar y clefyd, gellir gwella llawer o gleifion gyda llawdriniaeth. Fodd bynnag, yn y camau diweddarach, gall y canser ddychwelyd neu ddatblygu hyd yn oed ar ôl llawdriniaeth a chemotherapi. Un ffordd bosibl o atal ailwaelu yw drwy wneud system imiwnedd y claf yn well am ganfod a dinistrio unrhyw gelloedd canser a allai fod ar ôl ar ôl tynnu'r canser.

Canser y colon a'r rhefr yw un o brif achosion marwolaethau sy'n gysylltiedig â chanser ar draws y byd. Yn ystod camau cynnar y clefyd, gellir gwella llawer o gleifion gyda llawdriniaeth. Fodd bynnag, yn y camau diweddarach, gall y canser ddychwelyd neu waethygu, hyd yn oed ar ôl cael llawdriniaeth a chemotherapi. Un ffordd bosibl o atal ailwaelu yw drwy wneud system imiwnedd y claf yn well am ganfod a dinistrio unrhyw gelloedd canser a allai fod ar ôl ar ôl tynnu'r canser.
 

Mae celloedd T yn fath o gelloedd gwaed gwyn sy'n chwarae rhan allweddol yn y system imiwnedd. Maen nhw’n darganfod ac yn dinistrio celloedd heintiedig neu ganseraidd yn y corff drwy adnabod proteinau penodol a geir ar arwyneb y celloedd. Mae astudiaethau blaenorol wedi dangos y gall celloedd T adnabod proteinau sydd yn cael eu rhyddhau gan gelloedd canser y colon a'r rhefr.

Yr Athro Andy Godkin o Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd yn arwain y prosiect. Mewn cydweithrediad ag Oncolegwyr Felindre, mae wedi dangos yn flaenorol y gall dos isel o seicloffosffamid baratoi'r system imiwnedd mewn rhai cleifion sydd â chanser datblygedig y colon a’r rhefr.  Roedd clefyd y cleifion hynny y gwelwyd fod eu celloedd T yn ymateb yn cael ei reoli am gyfnod hirach.  Ar y dos isel hwn, canfuwyd bod seicloffosffamid yn ddiogel iawn.

Gan fod seicloffosffamid yn rhoi hwb i ymateb celloedd T i gelloedd canser, rydym yn credu y gallai'r ymateb hwn ganiatáu i system imiwnedd rhai cleifion ddinistrio unrhyw gelloedd canser y coluddyn sydd ar ôl.

 

Dywedodd yr Athro Rob Jones, Ymgynghorydd mewn Oncoleg Feddygol a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
“Rydym wedi recriwtio pum claf i gymryd rhan yn yr astudiaeth newydd hon dan arweiniad Caerdydd, y lleoliad cyntaf yn y DU i recriwtio. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r Athro Andy Godkin yn y gorffennol, ac rydym yn gobeithio y bydd y treial hwn yr un mor llwyddiannus â’n cydweithrediad blaenorol. Roedd cleifion a gymerodd ran yn yr astudiaeth flaenorol yn goddef triniaeth yn dda iawn, heb lawer o sgîl-effeithiau. Y gobaith yw y bydd y treial hwn yn dangos y bydd mwy o gleifion sydd yn cymryd seicloffosffamid (yr ymyriad byr) ar ôl iddynt gael triniaeth safonol yn cael eu gwella."

Dywedodd yr Athro Andy Godkin, Prif Ymchwilydd, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“Mae wedi bod yn ymgyrch weddol hir i gael y treial hwn ar ei draed, felly diolch i bawb am eu hamynedd, ac i Ymchwil Canser Cymru am barhau â’r ymgyrch. Mae Ysbyty Felindre wedi arwain y ffordd, drwy fod y gyntaf o ddeg canolfan i agor, ac mae hi eisoes wedi recriwtio sawl claf. Diolch o galon i Rob Jones a holl staff Felindre, ac wrth gwrs, i’r cleifion.”

 

Treial clinigol

Nod yr Ymyriad Byr â Seicloffosffamid mewn cleifion sydd â Chanser y Colon a'r Rhefr a gwblhaodd driniaeth glinigol (BICCC) ydy profi a allai rhoi dos isel o seicloffosffamid am bedair wythnos i gleifion canser y colon a'r rhefr cam 2 – 4 sydd wedi cwblhau llawdriniaeth a chemotherapi, helpu i wella cyfraddau gwella. 

Astudiaeth ar hap, label agored, mewn dwy ran ydy hon, gyda chyfranogwyr cymwys yn cymryd rhan mewn 10 canolfan yn y DU, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe.

Bydd y rheiny sydd yn cymryd rhan yn cael eu recriwtio a’u rhannu ar hap i un o ddau grŵp:

1. Monitro gweithredol, sy'n safon gofal (ni roddir seicloffosffamid) 

2. Seicloffosffamid am gyfanswm o bedair wythnos, wedi'i wasgaru dros gyfnod o naw wythnos.

Bydd y rheiny sydd wedi'u recriwtio yn cael eu gweld (neu weithiau’n derbyn galwad ffôn) bum gwaith dros gyfnod o 13 wythnos i’w monitro ac i gael eu triniaeth ar hap ar ffurf tabled maen nhw'n ei gymryd gartref, a byddant yn cael eu monitro am dair blynedd.

Y prif nod yw mesur effaith y cyffur seicloffosffamid ar oroesiad cleifion heb afiechyd.

 

Ariannu

Mae’r treial BICCC yn cael ei ariannu gan Ymchwil Canser Cymru.

Cancer Research Wales logo