Neidio i'r prif gynnwy

Claf cyntaf o Gymru yn cael brechlyn ymchwiliol yn erbyn canser y colon a'r rhefr

4 Chwefror 2024

Claf o Felindre yw’r person cyntaf yng Nghymru i gael brechlyn dan ymchwil sydd â'r nod o frwydro yn erbyn ei math penodol o ganser, yn rhan o astudiaeth ymchwil newydd sy’n torri tir newydd.

Cafodd Lesley Jenkins ddiagnosis o fath 2 o ganser y colon a’r rhefr ym mis Ebrill 2024 ar ôl prawf sgrinio’r coluddyn am ddim gan y GIG. Cafodd lawdriniaeth i dynnu'r tiwmor a chemotherapi, ac erbyn hyn mae'n cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil yng Nghanolfan Ganser Felindre.


“Roedd cael diagnosis o ganser y colon yn sioc gan nad oeddwn i wedi sylwi ar unrhyw symptomau. Aeth pethau rhagddynt yn gyflym iawn – ym mis Ebrill doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n sâl, ac erbyn mis Rhagfyr roeddwn i wedi gorffen cemotherapi a ches i wybod nad oedd angen rhagor o driniaeth arna i. Roedd hynny'n wych!” meddai Lesley.


Mae'r astudiaeth yn ceisio darganfod a oes modd i frechlynnau personol atal canser y colon a'r rhefr rhag dychwelyd. Mae'r brechlynnau'n defnyddio technoleg mRNA, sef gwaith arloesol BioNTech wrth ddatblygu brechlynnau cyntaf y byd rhag COVID-19. Cânt eu creu gan ddefnyddio samplau o diwmor y claf yn ogystal â dilyniannu DNA i frechu'r claf yn effeithiol rhag eu math penodol o ganser.

Clywodd Lesley am y treial wrth gael cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre.


“Ces i wybod fy mod i'n gymwys i fod yn rhan o'r treial ac rwy’n credu i mi gytuno'n syth. Mae’r staff yn Felindre yn gefnogol iawn a mor amyneddgar, ac roeddwn i am wneud rhywbeth ymarferol i helpu’r GIG a rhoi 'nôl am y gofal a’r proffesiynoldeb ces i a fy nheulu.

“Mae’r ffaith mai fi yw'r person cyntaf yng Nghymru i gael y driniaeth newydd hon yn gyffrous. Mae'n hynod ddiddorol bod yn rhan o rywbeth allai wneud cymaint o wahaniaeth i gleifion canser yn y dyfodol," meddai Lesley.


Cafodd Lesley ei brechiad cyntaf ym mis Ionawr ac mae hi wrthi'n cael brechiadau bob wythnos yn rhan o’r treial ac yn cael ei monitro’n agos gan glinigwyr yn Felindre.

 

Meddai'r Athro Rob Jones, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt yng Nghanolfan Ganser Felindre, Cyd-gyfarwyddwr Is-adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd, ac ymchwilydd arweiniol ar yr astudiaeth,

“Mae potensial enfawr gan y treial hwn i gleifion canser y colon a’r rhefr, un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru. Mewn llawer o achosion, os bydd canser y colon a'r rhefr yn dychwelyd ar ôl y driniaeth gychwynnol, does dim modd ei wella mwyach.

“Gallai’r treial hwn gael effaith sylweddol ar gleifion sydd eisoes wedi cael llawdriniaeth a chemotherapi, trwy ysgogi’r system imiwnedd i gael gwared ar unrhyw gelloedd canser sy’n weddill a thrwy hynny wella’r siawns o wella.

“Mae’n hynod gyffrous arwain y treial hwn yng Nghymru a gweld Lesley, y claf cyntaf o Gymru, yn cael triniaeth newydd allai fod yn arloesol.”


 

Mae’r treial, a elwir yn BNT122-01, yn rhan o gydweithrediad newydd rhwng BioNTech ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i hybu’r seilwaith ymchwil clinigol ledled Cymru a rhoi mwy o gyfleoedd i gleifion Cymru ymuno â threialon.

 

Gwyliwch Rob a Lesley yn siarad am y treial clinigol hwn.