24 Ebrill 2025
Cymerwch gipolwg cyntaf y tu mewn i Uned Radiotherapi newydd sbon Felindre @ Nevill Hall, a fydd yn agor ym mis Mehefin 2025.
Bydd y cyfleuster newydd cyffrous hwn yn cynyddu gallu Gwasanaeth Canser Felindre i ddarparu radiotherapi, gan ein helpu i weld mwy o gleifion bob wythnos. Wedi'i staffio gan dîm ymroddedig o arbenigwyr Gwasanaeth Canser Felindre, bydd yr Uned yn gweithredu fel estyniad o Ganolfan Canser Felindre yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.