21 Tachwedd 2025
Mae Carl James wedi ymgymryd â rôl Prif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi i David Donegan adael y swydd. Hoffem ddiolch i David am ei gyfraniad yn ystod ei gyfnod gyda’r Ymddiriedolaeth.
Bydd Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol yr Ymddiriedolaeth, yn dod yn Ddirprwy Brif Weithredwr. Mae gan y ddau brofiad blaenorol o ymgymryd â’r rolau hyn yn yr Ymddiriedolaeth.
Mae’r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o drawsnewid a gwella, gydag anghenion ein cleifion a’n rhoddwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn diolch yn fawr am ymroddiad parhaus a chyfraniad ein holl gydweithwyr ledled y sefydliad. Mae eu hymdrechion yn hanfodol i’n llwyddiant parhaus.