16 Mai 2025
Mae Canolfan Niwro-oncoleg De Cymru, sy’n cynnwys Canolfan Ganser Felindre, wedi cael ei dyfarnu’n Ganolfan Rhagoriaeth Tessa Jowell unwaith yn rhagor.
Dyfernir yr achrediad arobryn hwn i ganolfannau ledled y DU sydd wedi bodloni neu ragori ar safonau o ran y driniaeth, y gofal a’r ymchwil maent yn eu darparu i gleifion sydd â thiwmor yr ymennydd. Daw hyn wedi proses adolygu drylwyr dan arweiniad pwyllgor o arbenigwyr yn y GIG a chleifion.
Gwnaed y cyhoeddiad mewn digwyddiad arbennig yn The Francis Crick Institute yn Llundain i ddathlu cyrhaeddiad 14 o ganolfannau sydd wedi cael y dyfarniad arobryn hwn.
Meddai Dr James Powell, Arweinydd Niwro-oncoleg Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
"Mae'n wych bod gwaith caled ac ymdrechion cydweithredol yr holl dîm niwro-oncoleg yn ne Cymru wedi cael ei gydnabod fel hyn. Mae dyfarniad y ganolfan ragoriaeth, yn ogystal â sefydlu Menter Ymchwil i Diwmorau ar yr Ymennydd Ymchwil Canser Cymru, yn golygu bod y gwaith clinigol-wyddonol ar diwmorau ar yr ymennydd yng Nghymru'n gyffrous iawn."
Mae’r garreg filltir hon yn datblygu ar lwyddiant Canolfan Niwro-oncoleg Caerdydd, sy’n cynnwys Canolfan Ganser Felindre ac Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, wedi iddi hi gael yr un dyfarniad yn 2022.
Ac yntau erbyn hyn yn cynnwys Canolfan Ganser De-ddwyrain Cymru yn Ysbyty Singleton, Abertawe hefyd, cafodd tîm de Cymru eu canmol am sawl elfen sylweddol. Ymhlith y rhain roedd ei model rhagorol o ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, ei gwasanaeth oncoleg arloesol, ei chyfleoedd arbennig ar gyfer hyfforddiant, a’i rhaglen ymchwil niwro-oncoleg sy’n torri tir newydd.
Meddai David Donegan, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
“Braf iawn yw gweld bod ein partneriaeth o ragoriaeth yn y maes wedi cael ei chydnabod yn y ffordd hon. Bydd yr achrediad hwn yn parhau i hybu ein gwaith i wella gofal canser ac ymchwil i ganser, yn ogystal â gwella gwasanaethau a chanlyniadau i gleifion.”
Beth yw rhaglen Canolfan Rhagoriaeth Tessa Jowell?
Ers iddi gychwyn yn 2020, mae rhaglen Canolfan Rhagoriaeth Tessa Jowell wedi cydnabod canolfannau niwro-oncoleg i oedolion ledled y DU sydd wedi bodloni’r safonau uchel o ragoriaeth ym mhob maes o’u gwasanaeth i gleifion sydd â thiwmor yr ymennydd.
Mae’r canolfannau hyn yn cydweithio’n eithriadol ar draws sawl disgyblaeth wrth ddarparu gofal, a hynny gyda gwasanaethau tra arbenigol a rhagorol o ran y modd y maent wedi eu hintegreiddio. Maent yn darparu cyfleoedd ardderchog o ran ymchwil ar draws arbenigeddau a gofal go arbennig dan arweiniad nyrsys.
Mae’r achrediad hwn yn sail i rôl hollbwysig Canolfan Niwro-oncoleg De Cymru o ran datblygu gofal ac ymchwil ym maes niwro-oncoleg. Mae’n rhoi sicrwydd i gleifion a’u teulu eu bod yn cael gofal o’r radd flaenaf yn y GIG.