Neidio i'r prif gynnwy

"Be Treatment Ready – Colorectal Digital (BETR-C Digital)" – cyfle i'r cyhoedd

Pwrpas yr astudiaeth hon yw datblygu teclyn gofal iechyd digidol er mwyn gwella gofal maeth i bobl gyda chanser y colon a'r rhefr sy'n cael triniaeth cemotherapi. Hoffai Prif Ymchwilydd yr astudiaeth leol (Rhiannon Williams; Adran Maeth a Dieteg Felindre) wahodd pobl gymwys i gymryd rhan mewn hyd at ddau weithdy digidol i’w cynnal o bell yn ystod hydref 2022.

I gymryd rhan, rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn gyda diagnosis o gam II-III o ganser y colon a'r rhefr, profiad o driniaeth cemotherapi (o leiaf dau gylch), a dim mwy na thri mis ar ôl diwedd eich triniaeth, neu gallwch fod yn ofalwr am glaf o'r disgrifiad hwn.

Os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys a hoffech chi gymryd rhan, e-bostiwch Rhiannon ar Rhiannon.Williams7@wales.nhs.uk a bydd hi'n cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth ac yn trafod y camau nesaf.

Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth ar gael ar BETRC-Digital - Y Ganolfan Ymchwil Treialon - Prifysgol Caerdydd