Neidio i'r prif gynnwy

Troi'r dudalen: 34 mlynedd o ymroddiad Bernadette i'r llyfrgell

Ar ôl 34 o flynyddoedd yn llyfrgellydd yn Felindre, mae Bernadette Coles yn dod â’i phennod i ben wrth iddi gychwyn ar antur newydd ac ymddeol.

Ym 1991, daeth Bernadette i'r llyfrgell yn wreiddiol am leoliad dwy flynedd o hyd. Serch hynny, treuliodd hi'r 34 o flynyddoedd nesaf yn trawsnewid nid yn unig y llyfrgell, ond hefyd y ffordd mae gwybodaeth yn cael ei chyrchu a'i defnyddio yn yr ysbyty. Nawr, wrth iddi ymddeol, dyma gyfle i fyfyrio ar ei thaith anhygoel a'i hetifeddiaeth barhaus.

Trawsnewid y llyfrgell

Pan ddechreuodd Bernadette yn ei rôl yn wreiddiol, roedd y llyfrgell yn lle gwahanol iawn. Doedd dim cyfrifiaduron, dim system gatalog na ffordd hawdd i'r staff ddod o hyd i wybodaeth angenrheidiol. Mewn gwirionedd, roedd y llyfrau mwyaf gwerthfawr dan glo mewn swyddfa dim ond i feddygon eu defnyddio. Yn benderfynol o newid y system hen ffasiwn hon, arweiniodd Bernadette chwyldro tawel. Agorodd ddrysau’r llyfrgell i’r holl staff, symudodd adnoddau hanfodol i olwg y cyhoedd, cyflwynodd gatalog iawn, a llwyddodd hyd yn oed i gael llungopïwr ar y safle—gan ddileu’r angen i wthio llyfrau ar droli i adeilad arall i greu copïau ohonynt. Mae'r newidiadau bach ond arwyddocaol hyn yn gosod y naws ar gyfer yr hyn a fyddai'n troi'n yrfa llawn arloesi.

Yr oes ddigidol

Ar hyd y degawdau, roedd Bernadette yn addasu'n barhaus i dechnolegau newydd, gan sicrhau bod y llyfrgell yn parhau i fod ar flaen y gad o ran rheoli gwybodaeth. Goruchwyliodd y newid o gatalogau â chardiau diriaethol i systemau digidol, gan helpu'r staff i lywio'r sifft i gronfeydd data ar-lein a chyfnodolion electronig. Pan ddaeth y rhyngrwyd yn rhan annatod o ymchwil feddygol, roedd hi'n allweddol o ran hyfforddi staff yr ysbyty i ganfod, gwerthuso a defnyddio adnoddau ar-lein yn effeithiol.

Roedd ei hagwedd ragweithiol yn golygu nad oedd y llyfrgell byth yn cael ei gadael ar ôl. Cofleidiodd bob datblygiad technolegol gyda brwdfrydedd, gan sicrhau bod meddygon, nyrsys ac ymchwilwyr yn gallu cael y llenyddiaeth feddygol fwyaf diweddar a dibynadwy. P'un a oedd hi'n rhoi mynediad at destunau llawn cyfnodolion, yn gweithredu offer adolygu systematig, neu'n llywio materion hawlfraint a mynediad agored, roedd Bernadette bob amser ar y blaen.

Roedd mwy i'w gwaith na'r newidiadau cychwynnol hyn. Dros y blynyddoedd, cofleidiodd Bernadette bob newid mawr mewn technoleg, o dwf y rhyngrwyd i'r gwaith o ddigideiddio cyfnodolion a llyfrau. Diolch iddi hi, roedd y llyfrgell yn parhau i fod ar flaen y gad, gan ddarparu’r ymchwil feddygol ddiweddaraf ac addysgu'r staff sut i lywio’r byd gwybodaeth a oedd esblygu’n barhaus.

"Mae hi wedi bod yn braf gweithio gyda phawb [yn Felindre], ac mae pawb wedi bod yn frwdfrydig. Maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fel fy mod wedi helpu a fy mod wedi gwneud gwahaniaeth."

Hyrwyddo meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth

Aeth cyfraniad Bernadette y tu hwnt i'r llyfrgell ei hun. Roedd ganddi ran allweddol wrth hyrwyddo meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth, gan gydweithio â’r Cochrane Collaboration, sef rhwydwaith byd-eang sy’n gweithio i wella prosesau gwneud penderfyniadau gofal iechyd. Trwy ei gwaith o ran adalw gwybodaeth, helpodd i lunio canllawiau meddygol cenedlaethol a rhyngwladol. A dweud y gwir, mae hi a’i chydweithiwr Anne wedi cyd-awduro dros 70 o bapurau ymchwil. sef cyrhaeddiad rhyfeddol i lyfrgellwyr ysbyty.

Trwy'r cydweithrediadau hyn, teithiodd Bernadette y byd, gan fynychu cynadleddau, arwain sesiynau hyfforddi, a rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill.

"Yr wybodaeth rydyn ni'n dod o hyd iddi - rydyn ni'n gweithio ar lefel claf unigol ac yn dod o hyd i wybodaeth sy'n effeithio ar gleifion unigol a'u cynlluniau gofal, hyd at ddod o hyd i wybodaeth sy'n bwydo i ganllawiau rhyngwladol"

Effaith barhaol

Y tu hwnt i’w chyraeddiadau proffesiynol, mae Bernadette wedi bod yn fentor, yn arweinydd, ac yn gydweithiwr annwyl. Mae hi wedi gweld y llyfrgell yn tyfu o fod yn wasanaeth bach, unigol i fod yn adnodd ffyniannus, hanfodol ar gyfer yr ysbyty a'r tu hwnt. Mae hi wedi gweithio gyda sawl cydweithiwr, gan feithrin amgylchedd cynnes, cefnogol ac ymroddgar drwy'r amser.

Er gwaethaf ei blynyddoedd o ymchwil ac arloesi, dywedodd Bernadette y byddai'n gweld eisiau Anne fwyaf, ei llyfrgellydd cynorthwyol a’i ffrind agos, bob bore, a hwythau wedi gweithio gyda'i gilydd ers 2004.

“Y peth bydda i'n gweld ei eisiau fwyaf yw'r gweld Anne a dweud 'helo' wrthi fel y byddwn bob bore.”

Nawr, wrth iddi nesáu at ymddeol, mae gan Bernadette gynlluniau cyffrous o'i blaen. Mae’n edrych ymlaen at ailddarganfod ei chariad at gelf, treulio amser gyda’i grŵp agos o ffrindiau sydd wedi ymddeol, a pharhau â’i hangerdd am ailberfformio canoloesol gyda’i phartner. Ac er efallai na fydd hi wrth ei desg bob bore mwyach, bydd ei heffaith i'w theimlo am flynyddoedd i ddod.

Bernadette, diolch am bopeth. Rwyt ti wedi gadael marc anhygoel ar y llyfrgell, ar yr ysbyty, ac ar bawb sydd wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda ti. Gan ddymuno pob hwyl i ti yn dy bennod nesaf!