Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi astudiaeth mewn cyfnodolyn oncoleg glinigol!

Mae ymchwil Dr Annabel Borley a Dr Sophie Harding ar brosiect Phesgo wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn 'Clinical Oncology'.

Mae'r erthygl o’r enw ‘Switching to a Fixed-dose Combined Pertuzumab and Trastuzumab With Recombinant Human Hyaluronidase Subcutaneous Injection to Treat Human Epidermal Growth Factor Receptor 2-positive Breast Cancer in Real-world UK Clinical Practice yn seiliedig ar ddarn o waith a wnaed yn ystod y pandemig COVID a wnaeth ryddhau capacity o ran triniaeth gwrth-ganser systemig (SACT) a fferylliaeth, lleihau hyd ymweliadau cleifion â’r ysbyty (llai o risg o ddal COVID yn ystod yr ymweliad) a gwell profiad i gleifion.


Yr astudiaeth yn gryno…

Cefndir:
I gleifion gyda math HER2-positif o ganser y fron, mae triniaeth gyffredin yn cynnwys dau gyffur: trastuzumab a pertuzumab, ac mae’r ddau yn cael eu rhoi trwy ddrip mewnwythiennol. Mae'r dull hwn yn effeithiol, ond mae'n cymryd llawer o amser ac mae’n gallu bod yn anghyfforddus i gleifion.

Datblygiad newydd:
Yn 2020, crëwyd fersiwn newydd o'r cyffuriau hyn sy'n cyfuno'r ddau i greu un pigiad sy’n cael ei roi o dan y croen. Dim ond 5-8 munud y mae'r pigiad hwn yn ei gymryd, o'i gymharu â'r arllwysiad hirach trwy’r wythïen.

Roedd Felindre am newid eu holl gleifion o arllwysiadau hyn i'r pigiad cyflymach o dan y croen a gwneud yn siŵr bod cleifion y dyfodol hefyd yn dechrau gyda'r dull hwn.

Canlyniadau:

  • Cafodd 99% o gleifion (97 allan o 98) eu trosglwyddo'n llwyddiannus i'r pigiad newydd o dan y croen o fewn pedair wythnos yn unig.
  • Rhwng Ebrill 2021 a Medi 2022:
    • treuliodd yr ysbyty 3,062 awr yn llai o amser yn paratoi fferyllfa;
    • treuliodd cleifion 6,764 awr yn llai o amser yn eistedd mewn cadeiriau ysbyty i gael triniaeth.
  • Gostyngodd yr ysbyty hefyd nifer y dyddiau roedd eu fferyllfa yn orbrysur o ran gwaith.

Fe wnaeth y dull newydd hwn wella profiad cleifion a helpu'r ysbyty i weithredu’n fwy effeithlon.


"Roedd hi’n braf gweld y prosiect cydweithredol hwn yn cael ei gyhoeddi o'r diwedd i ddangos y dull cydweithredol newydd defnyddiom ni i ddarparu triniaethau SACT newydd i'n cleifion yng Nghanolfan Ganser Felindre. Erbyn hyn, mae modd defnyddio'r dull hwn i rannu arfer gorau yng Nghymru ac yn rhyngwladol er budd y ddarpariaeth o wasanaethau oncoleg yn y dyfodol i bob claf" - Dr Sophie Harding