11 Hydref 2024
Mae enillydd Gwobr Dewis y Bobl ar gyfer 2024 wedi cael ei goroni!
Cyflwynwyd y wobr yn rhan o seremoni Gwobrau Rhagoriaeth y Gweithlu a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yr wythnos hon yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw.
Cafodd gweithwyr ysbrydoledig eu cydnabod a’u dathlu mewn 16 o wahanol gategorïau, gan gynnwys Gwobr Dewis y Bobl lle cafodd y cyhoedd eu gwahodd i enwebu unigolion.
Dros gyfnod o ddau fis, cafwyd cyfanswm o 34 o enwebiadau ar gyfer 26 o weithwyr gwahanol o bob rhan o’r sefydliad.
Ar ôl cryn ystyriaeth gan y panel beirniadu, daethant i’r casgliad mai Siân Hampton sy’n haeddu’r wobr.
Mae Siân yn weithiwr cymorth gofal iechyd yng Nghanolfan Ganser Felindre sy’n helpu gyda llinellau PICC (cathetr canolog sy’n cael ei roi trwy’r croen mewn man perifferol).
Ymunodd â Felindre bron tair blynedd yn ôl gan weithio yn yr adran SACT (triniaeth gwrth-ganser systemig) ac mae’n dal i weithio yno heddiw o bryd i’w gilydd.
“Rwy’n teimlo’n llawn syndod a balchder,” meddai Siân ar ôl ennill ei gwobr.
“Dydy mynd i Felindre ddim yn teimlo fel gwaith i mi. Rwy’n caru fy swydd ac mae’r staff yn anhygoel.
“Mae’r cleifion a’r tîm rwy’n gweithio gyda nhw’n fy ysbrydoli bob dydd, felly mae’r wobr hon yn golygu cymaint i mi.”
Meddai’r Athro Donna Mead, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, “Mae Gwobrau Rhagoriaeth y Gweithlu yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
“Dyma ddiwrnod bob blwyddyn lle gallwn ni ddod ynghyd a chydnabod y rhagoriaeth sy’n bodoli ym mhob rhan o’r Ymddiriedolaeth: yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, yng Nghanolfan Ganser Felindre ac yn ein hadrannau corfforaethol a chymorth.
“Mae’n rhoi cyfle i ni gwrdd â’r rheiny sy’n arloesi, sy’n datblygu gwasanaethau a sy’n darparu gofal o ansawdd uchel a dweud wrthyn nhw pa mor falch a diolchgar ydyn ni.”
Dyma restr lawn o’r holl enillwyr.
Gwobr Addysg ac Ymchwil: Tîm Cwrs Adolygu Dwys FRCR Caerdydd
Gwobr Ansawdd ac Effeithlonrwydd: Philip Wheeler
Gwobr Arloesi: Tîm QuicDNA Canser yr Ysgyfaint
Gwobr Arweinyddiaeth: Dr Ricky Frazer
Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol: Y Tîm Ymwneud â Rhoddwyr
Gwobr Cynaliadwyedd: Cynllun Ailgylchu Cymhorthio Cerdded Felindre
Gwobr Datblygu Digidol: Tîm Prosiect DNA y ffetws sy’n rhydd o gelloedd
Gwobr Dewis y Bobl: Siân Hampton
Gwobr Gweithio mewn Partneriaeth: Tîm Prosiect DNA y ffetws sy’n rhydd o gelloedd
Gwobr Gwella Profiad y Cleifion: Anne Webster
Gwobr Gwella Profiad y Rhoddwyr: Tîm Cymorth Clinigol Gwasanaeth Gwaed Cymru
Gwobr y Gymraeg: Gweithgor y Gymraeg yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru
Gwobr Iechyd a Lles: Y Tîm Therapïau Cyflenwol
Gwobr Mynd y Filltir Ychwanegol (2 enillydd): Alla Wareham a Sarah Thomas
Gwobr Tîm y Flwyddyn (2 enillydd): Tîm Gwella Gwasanaethau Gwasanaeth Gwaed Cymru a Thimau Ansawdd a Diogelwch yr Ymddiriedolaeth a’r Adrannau
Gwobr y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr (3 enillydd): Michele Pengelly, Stephen Colliandris a Thîm Casgliadau Wrecsam