Neidio i'r prif gynnwy

Annog cleifion i holi ynglŷn â threialon clinigol

20 Mai 2023

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Treialon Clinigol eleni, rydym yn annog ein cleifion i holi eu clinigydd ynglŷn â threialon clinigol.

Mae'r diwrnod yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 20 Mai ac mae'n rhoi cyfle i'n cymuned ymchwil glinigol gymryd seibiant i fyfyrio, cydnabod ac edmygu popeth sydd wedi'i gyflawni diolch i dreialon clinigol, yn ogystal â'r bobl y tu ôl iddynt.

Mae treialon clinigol yn chwarae rhan bwysig wrth ddarganfod triniaethau, therapïau a gweithdrefnau newydd ar gyfer clefydau a chyflyrau. Er nad yw cleifion bob tro'n elwa'n uniongyrchol ohonynt, mae’r diwrnod yn gyfle hanfodol i hybu'r gwaith o ddatblygu gwybodaeth feddygol ym maes oncoleg ac i annog mwy o gleifion i ystyried cymryd rhan mewn treialon clinigol.

Meddai Magdaleine Meissner, sy'n Oncolegydd Meddygol yn y Ganolfan Ganser:

“Rydym yn angerddol iawn am dreialon clinigol,” “Mae’r rhan fwyaf o’r cyffuriau rydyn ni’n eu defnyddio nawr ym maes oncoleg wedi deillio o dreialon clinigol, felly mae angen i ni ddal ati, dal ati i weithio a gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu darparu gwell triniaethau ar gyfer y dyfodol ac i’n cleifion.

“Allwn ni ddim addo y bydd y driniaeth yn gweithio i gleifion, ond rhai o'n cleifion wedi cael canlyniadau da iawn gyda’r triniaethau ar dreialon, sydd wedi eu helpu i fyw'n hir.”

Mae Bryan Webber, sy'n gyn-glaf canser y pen a'r gwddf yng Nghanolfan Ganser Felindre, wedi elwa o gymryd rhan mewn treial clinigol. Meddai ef:

“Mae'n dda gwybod fy mod i'n gwneud rhywbeth sy'n gwneud i rywun arall yn y dyfodol gael triniaeth well fyth.

“Roeddwn i’n cael triniaeth well o lawer a'r tu hwnt i’r arferol, a oedd yn cynnwys sganiau ychwanegol. Roedd hyn yn golygu bod angen llai o radiotherapi arna i.”

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Treialon Clinigol yn cael eu dathlu ledled y byd i gydnabod y diwrnod y dechreuodd James Lind, a oedd yn llawfeddyg yn y Llynges Frenhinol Brydeinig, y treial clinigol ar hap cyntaf (i astudio effeithiau gwahanol driniaethau ar ddiffyg sylweddol o fitamin C (scurvy) ymhlith morwyr), ar 20 Mai 1774.

Gwyliwch y fideos isod sy'n tynnu sylw at rôl pob rhan o'r daith trwy dreial clinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre, o'r Nyrsys Ymchwil a'r clinigwyr i rôl ein Tîm Fferylliaeth yn ogystal â stori Bryan.

 

Beth yw treialon clinigol?

Mae treial clinigol yn cymharu effeithiau un driniaeth ag un arall.

Gallwch ofyn i'ch ymgynghorydd neu glinigwr yw'n ymwybodol am unrhyw dreialon clinigol sydd ar gael yn y Ganolfan Ganser ac sy'n addas i chi.

Mae treialon clinigol yn ein helpu i ddeall sut i drin salwch penodol. Gallai fod o fudd i chi, neu i bobl eraill fel chi, yn y dyfodol.

Os byddwch yn cymryd rhan mewn treial clinigol, efallai mai chi fydd un o'r bobl gyntaf i elwa o driniaeth newydd.

Fodd bynnag, mae'n bosibl hefyd na fydd y driniaeth newydd yn well nac yn waeth na'r driniaeth arferol.