Neidio i'r prif gynnwy

Aelodau Bwrdd Annibynnol i hyrwyddo ymchwil ar draws GIG Cymru

Two people look at a poster at a research event.

29 Mawrth 2023

Mae byrddau iechyd a sefydliadau’r GIG yng Nghymru wedi penodi un o’u cyfarwyddwyr anweithredol i fod yn llais ymchwil a datblygu ar eu Byrddau, fel rhan o fenter newydd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae cynyddu amlygrwydd ymchwil a’i wreiddio yn holl wasanaethau’r GIG yn hanfodol er mwyn ysgogi gwelliant, yn ogystal â sicrhau bod gan bob claf fynediad at y triniaethau diweddaraf a gofal o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys ataliaeth.

Ym mis Mawrth 2021, ymrwymodd pedair gwlad y DU i weledigaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer ymchwil – Arbed a Gwella Bywydau: Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol yn y DU - sy'n nodi'r uchelgais i greu amgylchedd ymchwil clinigol o'r radd flaenaf yn y DU.

Fel rhan o ymrwymiad Cymru i wreiddio ymchwil ar draws y GIG, mae’r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, wedi gofyn i holl sefydliadau’r GIG enwebu aelod Annibynnol ar y Bwrdd i hyrwyddo ymchwil fel rhan o’u portffolio ehangach o gyfrifoldebau.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno menter o'r fath.

Bydd yr aelodau Annibynnol yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Gweithredol sy’n gyfrifol am ymchwil, yn ogystal â chyfarwyddwyr Ymchwil a Datblygu ym mhob sefydliad, i sicrhau bod ymchwil ar y radar ar lefel Bwrdd a bod proffil ymchwil yn cael ei godi ymhlith staff a chleifion ar draws yr holl fyrddau iechyd a sefydliadau’r GIG.

Meddai Dr Atherton

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelodau Annibynnol sydd wedi derbyn yr her hon ac wedi cytuno i fod yn hyrwyddwr ymchwil ar Fyrddau eu sefydliad. Fel y dangoswyd yn ystod y pandemig, mae rôl ymchwil yn hollbwysig wrth ddod o hyd i atebion, ac wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae angen ymchwil iechyd a gofal ehangach i’n helpu i ddod o hyd i driniaethau arloesol ar gyfer y dyfodol ac i gwrdd â’r heriau ychwanegol y mae ein poblogaeth, a’r system iechyd a gofal, yn eu hwynebu.”

Bydd rôl hyrwyddwr y Bwrdd ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn cynnwys: 

  • datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd ymchwil fel sbardun allweddol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol da, cefnogi'r gwaith o hyrwyddo ymgyrchoedd ymchwil Cymru gyfan, ac
  • ymgysylltu â'r Cyfarwyddwr Gweithredol arweiniol a'r arweinydd Ymchwil a Datblygu i sicrhau bod gweithgarwch ymchwil lleol yn cael ei hyrwyddo a'i gefnogi, ei fonitro a'i adrodd yn effeithiol ar lefel y Bwrdd.

Meddai'r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae gan holl sefydliadau’r GIG ran sylweddol i’w chwarae wrth hwyluso amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn trwy wreiddio ymchwil fel rhan o’r holl wasanaethau gofal iechyd. Gwyddom fod sefydliadau’r GIG sy’n weithgar mewn ymchwil yn gweld canlyniadau iechyd gwell, nid yn unig i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil, ond i bob claf. Yn ogystal, mae buddsoddi mewn ymchwil yn arwain at fanteision economaidd i’r GIG a all gefnogi gwasanaethau rheng flaen gan gynnwys datblygu a chadw’r gweithlu.”

Phencampwyr ein Bwrdd

Professor Andrew Westell smiles. Cymhwysodd yr Athro Andrew Westell mewn meddygaeth o Brifysgol Leeds, lle cafodd ei PhD mewn synthesis cemegol yn 1994. Yn dilyn ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Loughborough, daeth yn uwch gymrawd ymchwil yr Ysgol Fferylliaeth ym Mhrifysgol Nottingham, gan gynnal ymchwil i ddarganfod cyffuriau canser cyn-glinigol gan arwain at nodi cyffur ymgeisiol clinigol newydd.

Yn 2006, symudodd Andrew i swydd fel Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Fferylliaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddod yn Athro Cemeg Meddyginiaethol yn 2016. Mae wedi parhau â'i waith i ddarganfod cyffuriau gwrth-ganser ymgeisiol newydd sy'n targedu afiechydon datblygedig ac ymwrthol. Mae gwaith cydweithredol diweddar Andrew wedi arwain at gyffuriau ymgeisiol datblygedig newydd yn erbyn targed cyffuriau canser newydd o’r enw Bcl3, ac mae gwaith yn parhau i symud y prosiect hwn ymlaen i dreialon claf cyntaf sy’n targedu canser y colon a’r rhefr a chanser y fron sy’n ymwrthol ac yn fetastatig. Nod prosiectau ymchwil cysylltiedig eraill yw datblygu moleciwlau delweddu diagnostig canser newydd.

Ymhlith y rolau eraill y mae Andrew wedi ymgymryd â nhw yw bod yn Drysorydd ar gyfer Cymdeithas Ymchwil Canser Prydain (2004-2010), ac yn fwyaf diweddar, yn Ddeon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd (2018-2021). Mae hefyd wrthi’n gwasanaethu ar bwyllgor gwyddonol Prostate Cancer UK ac mae’n cadeirio’r Bwrdd Rhaglen ar gyfer Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru, sef prosiect seicoweithredol newydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ystod ei yrfa academaidd, bu’n awdur/cydawdur dros gant a hanner o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion gwyddonol rhyngwladol.