Neidio i'r prif gynnwy

Adnodd hynod o ddefnyddiol i gleifion canser y prostad

18 Awst 2023

Mae Prosiect MYMR (My Medical Record) yn ddatblygiad Cymru-gyfan y mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre’n cymryd rhan ynddo.

Dyma ddatblygiad cadarnhaol iawn a fydd yn rhoi cyfle i gleifion sydd â math sefydlog o ganser y prostad olrhain eu cyflwr a chysylltu â gweithiwr proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd trwy’r system, os bydd angen cymorth neu wybodaeth.

Trwy My Medical Record, gall cleifion weld eu canlyniad antigen penodol i’r prostad (PSA), a fydd yn hollbwysig o ran datblygu a chyflwyno ffordd newydd o ddarparu gofal dilynol i gleifion sy’n byw gyda chanser y prostad.

Ar hyn o bryd, mae cleifion sy’n byw gyda chanser y prostad yn cael cysylltiadau dilynol yn rheolaidd gyda’u timau gofal iechyd, naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy lythyr.

Bydd gweithiwr cymorth canser y prostad yn cynnal y system hon ac yn gwneud y cyflwyniad cychwynnol, gan gynnwys y cofrestru, yn cydlynu’r apwyntiadau priodol am brofion gwaed dilynol, yn anfon y ffurflen waed at y claf ac yn cynnig asesiad holistaidd o anghenion. Yna, bydd yn monitro’r canlyniad PSA ac yn cymryd camau priodol os bydd angen, a hynny’n seiliedig ar brotocol.

Bydd rôl y gweithiwr cymorth canser yn hanfodol o ran helpu cleifion i gadw golwg ar eu cyflwr, trwy fod yn bwynt cyswllt i gleifion trwy’r system. Bydd yn defnyddio adnoddau addysgiadol a chyngor, ac yn cyfeirio at adnoddau eraill o gymorth ac yn uwchgyfeirio unrhyw achosion cymhleth at y Nyrs Glinigol Arbenigol.

Byddwn yn cyflwyno’r cleifion cyntaf i MYMR ym mis Awst.

 

Ar MYMR, mae modd...

 

 

Manteision defnyddio MYMR – Prostate Tracker

  • Mwy o rym i gleifion a’r gallu iddynt reoli eu cyflwr

  • Lleihau amseroedd aros am ganlyniadau prawf gwaed

  • Gall cleifion weld eu gwybodaeth glinigol yn haws

  • Gwell cyfathrebu rhwng y Tîm Wroleg a chleifion

  • Llai o angen am apwyntiadau yn yr ysbyty – gwell defnydd o amser y Nyrsys Clinigol Arbenigol

  • Bydd cleifion yn deall yn well y sgil effeithiau posibl a sut i reoli eu canser