Neidio i'r prif gynnwy

Adnodd costau byw newydd gyhoeddi

Mae adnodd newydd wedi cael ei gyhoeddi i roi cymorth i gleifion a'u hanwyliaid yn ystod y cynnydd mewn costau byw.

Rydym yn gwybod bod costau byw yn peri pryder i lawer o bobl, ond mae’n gallu bod yn arbennig o anodd i'r bobl hynny sydd eisoes yn wynebu ansicrwydd oherwydd eu bod wedi cael eu diagnosio gyda chanser. Yng Nghanolfan Ganser Felindre, mae gennym nifer o wasanaethau pwysig a allai eich helpu.

Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth bwysig am ein gwasanaethau gydag arweinwyr o bob rhan o Ganolfan Ganser Felindre, yn ogystal â chasgliad o gyngor, awgrymiadau, adnoddau a deunyddiau eraill i helpu gyda rhai o'r heriau y gallai llawer o bobl eu hwynebu.

Mae'r gefnogaeth yn canolbwyntio ar dair thema allweddol:

  • Cymorth ariannol | Helpu i ddeall budd-daliadau’r wladwriaeth y mae ganddynt yr hawl i’w cael, a’r cynlluniau y mae ganddynt yr hawl i gael mynediad iddynt. 
  • Cymorth iechyd meddwl | Helpu i ddysgu strategaethau newydd i reoli teimladau gofidus
  • Cymorth lles | Helpu i gydnabod eich lles meddyliol a chymryd camau gweithredol

Rydym yn annog cleifion a'u teuluoedd i edrych ar y wybodaeth sydd ar gael.

Bydd y clinigwyr sy'n darparu eich gofal yn asesu eich anghenion ar wahanol adegau o'ch triniaeth. Lle bo'n briodol, byddant yn gwneud atgyfeiriadau i chi dderbyn cefnogaeth ychwanegol gan adrannau arbenigol.

Os ydych chi’n credu y gallech elwa o atgyfeiriad neu os hoffech wybod mwy am yr opsiynau sydd ar gael i chi, siaradwch gyda chlinigwr yn eich apwyntiad nesaf.