Neidio i'r prif gynnwy

Yr Athro Mark Taubert yn cyflwyno prif gyflwyniad mewn cynhadledd ryngwladol fawreddog yn Japan

Mark is stood next to his conference poster. Two colleagues are also there.

24 Awst 2026

Gwahoddwyd yr Athro Mark Taubert, Cyfarwyddwr Clinigol ac Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Liniarol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar, i arddangos gwaith ar Gynllunio Gofal y Dyfodol mewn cynhadledd ryngwladol fawr yn Japan.

Mark is on a stage with a big screen to his side. A large conference room full of people is listening to him. Cyflwynodd Mark brif gyflwyniad yng Nghynhadledd Sapporo ar gyfer Gofal Lliniarol a Chefnogol (SCPSC), a gynhaliwyd yn Sapporo ym mis Gorffennaf. Daeth y gwahoddiad yn dilyn cais gan drefnwyr y gynhadledd i gyflwyno'r gwaith Cynllunio Gofal y Dyfodol arloesol sydd yn cael ei ddatblygu a'i weithredu yng Nghymru.

Ystyrir y SCPSC yn un o'r digwyddiadau mwyaf pwysig yng nghalendr y maes gofal lliniarol ar draws y byd, ac mae’n cael ei ddisgrifio’n aml fel 'Gemau Olympaidd Cynadleddau Gofal Lliniarol a Chefnogol'. Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal bob tair blynedd ac eleni,  croesawodd y gynhadledd fwy na 1,200 o gyfranogwyr cofrestredig o 30 o wledydd, gan ddod ag arbenigwyr, ymchwilwyr a chlinigwyr o bob cwr o'r byd at ei gilydd.

Wrth siarad am y cyfle, dywedodd Mark:

"Braint o’r mwyaf yw cyflwyno ein gwaith ar Gynllunio Gofal y Dyfodol Cymru o Gymru ym mhumed cynhadledd SCPSC 2026 yn Sapporo, Japan. Roedd diddordeb enfawr yn y pwnc hwn ar draws y byd, a heriau tebyg wrth siarad am gyfnodau olaf bywyd. Rydw i wedi dysgu llawer gan fy ngwesteiwyr Japaneaidd. Arigatou gozaimasu."

Canolbwyntiodd y cyflwyniad ar raglen Cynllunio Gofal y Dyfodol Cymru sy'n parhau, ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda salwch difrifol i drafod a chofnodi eu dymuniadau, eu blaenoriaethau a'u dewisiadau ar gyfer gofal yn y dyfodol. Mae'r fenter wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Rhagoriaeth mewn Gofal Lliniarol Coleg Brenhinol y Meddygon, Gwobr GIG Cymru, ac mae wedi cyfrannu at raglen ddogfen a enillodd wobr BAFTA Cymru, a oedd yn cynnwys claf o Felindre.

Yn ystod ei brif araith, tynnodd Mark sylw at enghreifftiau o sut mae cynllunio gofal y dyfodol yn cael ei weithredu, gyda ffocws penodol ar Gymru a'r gwaith cydweithredol sydd yn cael ei wneud dan arweiniad Felindre a Phrifysgol Caerdydd. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd datblygu dealltwriaeth glir a chyson o gynllunio gofal ar gyfer y dyfodol i gefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio yn y meysydd eiddilwch, gofal cefnogol a gofal lliniarol.