Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ennill gwobr aur fawreddog y Lluoedd Arfog

Armed Forces Covenant  | Employer Recognition Scheme | Gold Award 2023 | Proudly supporting those who serve

18 Gorffennaf 2023

Mae bron i 200 o sefydliadau wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth y DU am gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, y nifer uchaf erioed ers lansio’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn 2013.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn falch o fod yn un o ddim ond 10 sefydliad yng Nghymru i dderbyn Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, y bathodyn anrhydedd uchaf, sy'n cydnabod y rôl gadarnhaol y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.

Eleni, mae sefydliadau ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys trafnidiaeth, addysg, cyllid a gofal iechyd wedi cael eu cydnabod yn y gwobrau.

Dywedodd Dr Andrew Murrison, y Gweinidog dros Bobl Amddiffyn, Cyn-filwyr a Theuluoedd y Lluoedd Arfog:

“Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi cael eu cydnabod yn y gwobrau eleni. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gweld cynifer o fudiadau’n cael eu cydnabod gyda gwobr aur. Mae eu cefnogaeth barhaus yn dangos y manteision a’r cryfderau unigryw y gall cymuned y Lluoedd Arfog eu cynnig i’r gweithle.”

Mae gan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, sy’n cael ei ddarparu gan y tîm Rheoli Cysylltiadau Amddiffyn, gyfanswm o 641 o ddeiliaid ar hyn o bryd. Rhaid i sefydliadau ailymgeisio bob pum mlynedd i gadw eu statws Gwobr Aur.

I ennill Gwobr Aur gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, rhaid i sefydliadau ddarparu 10 diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl i filwyr wrth gefn, a sicrhau bod ganddynt bolisïau Adnoddau Dynol cefnogol ar waith ar gyfer milwyr wrth gefn, cyn-filwyr, gwirfoddolwyr sy’n oedolion y Llu Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd a phartneriaid y rheini sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Rhaid iddynt hefyd hyrwyddo manteision cefnogi’r rheini sydd yng nghymuned y Lluoedd Arfog, drwy annog sefydliadau eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac ymgysylltu â’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cymryd nifer o gamau i ddarparu cymorth ychwanegol i gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Sefydlu Rhwydwaith y Lluoedd Arfog, i gefnogi gweithwyr sy'n filwyr wrth gefn, cyn-filwyr a gwŷr/partneriaid.
  • Cefnogi timau o staff i gymryd rhan yn yr Ymarfer “Medical Stretch”, a arweiniodd at aelodau o staff yn dod yn Filwyr wrth Gefn mewn 203 Ysbyty Maes.
  • Cynnwys y Lluoedd Arfog yng nghyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a digwyddiadau 'cinio a dysgu'.
  • Cymryd rhan mewn trefniadau Cynllunio Parhad Busnes.
  • Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) 203 Ysbyty Maes (yng Nghymru), gan gynnwys lansio Gwobr Rhagoriaeth Glinigol ar y cyd.
  • Ymrwymiad i Gynllun Cadetiaid Tywysog Cymru y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) sy'n darparu lleoliadau strwythuredig ar gyfer cadetiaid nyrsio yn CGF a Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC). 
  • Ymuno â'r Bartneriaeth Pontio Gyrfa, ac ymrwymo i broses gyfweld gwarantedig ar gyfer y rhai sy'n bodloni meini prawf sgiliau hanfodol.
  • Gweithio tuag at ennill Achrediad Ymwybyddiaeth o Gyn-filwyr, a sefydlu Grŵp Llywio y Lluoedd Arfog i gwmpasu llwybrau’r gweithlu a chleifion.